Crwydro Cefn Gwlad:

Llwybr Camlas Castell-nedd

Taith gerdded hanesyddol drwy harddwch naturiol eithriadol ar hyd Camlas Castell-nedd

Y Basn hwn oedd y gyffordd rhwng Camlesi Castell-nedd (Glyn-nedd-Llansawel) a’r Tennant (Aberdulais-Port Tennant); roedd hefyd yn fan llwytho a throsglwyddo ar gyfer trafnidiaeth gludo. O ran masnach, roedd Camlas Castell-nedd yn cludo 150,000 o dunelli o lo erbyn 1820. Cododd hyn i 200,000 o dunelli yn ei hanterth, gan drosglwyddo i Gamlas Tennant yn bennaf. Mae’r Tennant yn croesi afon Nedd ar draphont dŵr (mewn bod o hyd ond mewn cyflwr gwael) i’r de o’r basn, a ddilynir gan loc.

Cafodd Camlas Castell-nedd ei thirfesur mor bell yn ôl â 1791 gan Thomas Dadford, ac fe’i hadeiladwyd rhwng Abernant a Llansawel yn 1795 gan y peiriannydd Thomas Sheasby. Costiodd y llwybr 17 cilometr £40,000 ac roedd iddo 19 o lociau, y mae tri ohonynt (Y Clun, Abergarwed a Resolfen) ar y llwybr a ddisgrifir.

O ran masnach, roedd yn bwysig am ei bod yn cludo 150,000 o dunelli o lo erbyn 1820. Cododd hyn i 200,000 o dunelli yn ei hanterth, gyda’r rhan fwyaf yn cael ei drosglwyddo i Gamlas Tennant yn Aberdulais. Dechreuodd ddirywio ar ôl 1845, a thalwyd y difidend olaf yn 1896. Daeth y drafnidiaeth fasnachol i ben erbyn 1916 er y codwyd tollau ar drafnidiaeth arall tan 1934.

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

Disgynnwch o’r bws yn Rhaeadr Aberdulais (CG 772994). Croeswch y ffordd, ewch i’r dde ar hyd y palmant am 50 metr yna disgynnwch i’r chwith. Croeswch Gamlas Tennant a than y rheilffordd, wedyn trowch i’r dde i mewn i isffordd a chroeswch yr afon. Trowch i’r chwith yna i’r dde wrth ochr Basn Camlas Aberdulais; croeswch y basn ar bont gam, ac oddi yma mae’n daith hawdd ar hyd y llwybr halio.

Mae’r llwybr yn rhedeg yn gyfochrog ag Afon Nedd (ar y chwith) a llechweddau coediog (ar y dde) nes i chi gyrraedd Loc adferedig Y Clun (CG 798002), ble mae’r B4434 yn rhedeg wrth ochr y gamlas. Mae safle bysiau yma os hoffech ddechrau neu ddiweddu’r daith yn y man hwn.

Mae rhan goediog fer cyn i’r llwybr ymagor a chroesi’r afon dros draphont dŵr Ynysbwllog sydd wedi’i hailadeiladu. Mae’n mynd dan yr A465 ac yn parhau yr ochr draw i’r cwm. Ger Abergarwed mae’r llwybr yn rhannu yn drac llydan*. Cadwch i’r ochr dde sy’n dilyn glan yr afon nes i chi ddod at lwybr troed ar y dde ger siediau mawr (CG 818023). Bydd hwn yn eich tywys dros yr afon, dan yr A465 a thros y rheilffordd, gan godi’n raddol at y B4434 ym Melin-cwrt. Trowch i’r dde ac ar ôl 100 metr, trowch i’r chwith ar hyd y llwybr byr, serth a chreigiog i Raeadr Melin-cwrt (CG 825026): mae’n wir werth yr ymdrech!

Ewch yn ôl i gyffordd y llwybrau (CG 818023), y tro hwn dilynwch yr un i Abergarwed a’r B4242, trowch i’r dde a cherddwch am un cilometr ar hyd y palmant gan fynd heibio i dafarn y Farmers Arms (ar y chwith). Oddi yma, rydych o fewn cyrraedd cerdded i’r ffordd gyswllt i’r pentref, gan fynd heibio i’r basn camlas adferedig (ar y chwith) a’r A465 ar hyd pont droed i’r safle bysiau yn Stryd John (CG 828029).

Yn Resolfen, argymhellir eich bod yn mynd am dro byr ar hyd y gamlas i fwynhau ei harddwch coediog.
*noder bod y bont fechan ger Abergarwed (GR816022) yn groesadwy, ond nid oes hawl tramwy i’r cyhoedd arni; yn lle hynny gellir defnyddio’r briffordd drwy Abergarwed.

Darllen mwy