Crwydro'r Arfordir:

Porth Einon – Rhosili

LLWYBR TONNOG A HERIOL AR HYD PENNAU CLOGWYNI A BAEAU CUDD

Mae’r rhan hon o’r Llwybr Arfordir yn un o deithiau cerdded harddaf ac enwocaf Penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn mwynhau golygfeydd mawreddog o’r arfordir a’r clogwyni garw, gan ddiweddu ar bentir eiconig, syfrdanol Pen Pyrod ac ar un o draethau gorau Cymru a Phrydain yn Rhosili.

MWY O FANYLION

MANYLION Y LLWYBR

Disgynnwch o’r bws o Abertawe ym Mhorth Einon (CG 468852). Nid yw’r arwyddion yn glir iawn a dylech gerdded yn gyntaf at lan y môr a throi i’r dde, gan fynd heibio i ran uchaf y traeth a’r Hostel Ieuenctid. Yna ewch i fyny’r rhiw ar lwybr serth tuag at garreg goffa ar y copa. Oddi yma, mae llwybr glaswellt yn mynd i Overton Mere, ac yna’n ymdonni i Glogwyn Overton (CG 455850). Yma, mae’n croesi’r Llwybr Arfordir swyddogol sy’n mynd i’r dde i fan uwch ar y clogwyn, (mae ffordd arall sy’n fwy diddorol, ond yn fwy heriol, yn mynd heibio i’r clogwyni a bydd hon yn eich gwobrwyo â golygfeydd syfrdanol dros ben). Fodd bynnag, ar ôl 1km (Ogof Long Hole), mae’r llwybr isaf ar gau ac mae’n rhaid i chi ddringo nôl i ben y clogwyn.

Uwchlaw Ogof enwog Pafiland, (CG 438862), mae llwybr i’r dde yn arwain i Pilton Green (1.5km) ar hyd y brif ffordd B4247. Yna, mae’r llwybr yn mynd heibio i Fae Mewslade ac yn disgyn yn serth i gwm bach cyn yr esgyniad serth anochel nôl i ben y clogwyni. Ar ôl cyrraedd y copa, os hoffech fyrhau’r daith, dewiswch y llwybr sy’n mynd yn syth ymlaen i Middleton a dilyn y brif ffordd i Rosili. Bydd hyn yn arbed 3.5km.

Ond os oes gennych ddigon o amser ac egni, mae’r prif Lwybr Arfordir yn mynd heibio i Mewslade a Bae Fall i ran bellaf y penrhyn uwchlaw sarn Pen Pyrod.

O Ben Pyrod ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr poblogaidd i bentref Rhosili. Mae’r safle bysiau yn y trogylch ym mhen ucha’r pentref (CG 416880)

MWY O FANYLION