Anturiaethau Teithio o Abertawe

TEITHIAU GOLYGFAOL I LEOEDD ANHYGOEL.
DIWRNODAU ALLAN DIFYR I’N HYMWELWYR A’N PRESWYLWYR.

Mae Abertawe’n ddinas wych am wyliau, felly beth am aros yn hirach a’i gwneud yn fan cychwyn ar gyfer archwilio rhannau eraill o dde orllewin Cymru?
Mae llu o gyfleoedd i breswylwyr fynd allan i grwydro’r ardal ar y trên neu’r bws. Ar y trên, gallwch ddarganfod lleoedd hyfryd yng ngorllewin a chanolbarth Cymru, gyda golygfeydd gwych o’r arfordir a chefn gwlad ar y ffordd. Gall y bws eich cludo i atyniadau a golygfeydd dramatig fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol eiconig ynghyd â’r atyniadau lleol ym Mro Gŵyr a’r Cymoedd.

BETH AM DDEWIS UN O’R TEITHLENNI HYN AM DDIWRNOD ALLAN DIFYR!

GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU – AR Y BWS

Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn un o brif atyniadau Cymru, ac mae’n lle arbennig sy’n gyflym ddatblygu’n un o’r gemau hardd yng nghoron gerddi’r DU.

Ewch ar y bws T1s Traws Cymru o Abertawe yn uniongyrchol i’r Ardd Fotaneg, gan adael am 12.15 a dychwelyd oddi yno am 16.23 ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Nid oes gwasanaeth ar y Sul neu Wyliau Cyhoeddus.

TAITH EGSOTIG I GALON CYMRU – AR Y TRÊN

Mae un o deithiau trên mwyaf diddorol Cymru’n cychwyn ar ei lwybr golygfaol ar hyd arfordir y mileniwm, ymlaen i ddyffryn gwledig Tywi ac i ardal fynyddig, glogyrnog Powys. Mwynhewch daith ar reilffordd gefn gwlad go iawn!

EWCH AR Y TRÊN I UN O’R TREFI BYCHAIN NIFERUS AR HYD Y LLWYBR NEU I GRWYDRO’R CEFN GWLAD AMGYLCHYNOL AR DROED NEU AR FEIC*

Mae’r trên a awgrymir yn gadael Abertawe am 09.15 (dydd Sadwrn); 09.33 (dydd Llun i ddydd Gwener); 11.12 ar y Sul; Tre-gŵyr tua 10 munud yn ddiweddarach. Gallwch dreulio hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan o hamdden cyn dychwelyd

**Dim ond dau feic i bob trên oni bai eu bod wedi’u plygu; argymhellir bwcio ymlaen llaw

  • LLANDEILO

    Mae nifer o atyniadau yn y dref farchnad brysur hon – siopau annibynnol o safon ac amrywiaeth o leoedd i fwyta ac yfed. Mae'n daith gerdded neu feicio fer i eiddo hardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parc a Chastell Dinefwr. Mae'n daith feicio (neu gerdded) hirach a mwy egnïol i gaer odidog Castell Carreg Cennen (7km). Yr opsiwn gorau yw disgyn o’r trên yn Llandybie a dychwelyd i Landeilo i ddal y trên nôl.
    Ewch i'r wefan
  • LLANYMDDYFRI

    Mae Llanymddyfri’n dref farchnad a phorthmona hynafol gyda phensaernïaeth Sioraidd a hanes cyfareddol. Mae'r ardal yn nodedig am ei ‘Braveheart’ Cymreig, Llywelyn ap Gruffydd, a Meddygon Myddfai. Mae amrywiaeth o siopau bwyd, diod a chrefftau yma. Gallwch fynd ar daith gerdded neu feicio 5km ar hyd ffyrdd tawel trwy gefn gwlad hardd i bentref Myddfai, sydd o bosib yn fan geni meddygaeth fodern. Yn ôl y chwedl, roedd llinach o lysieuwyr o'r enw ‘’Meddygon Myddfai” yn byw ac yn gweithio yma yn yr 11eg a'r 12fed ganrif.
  • Cynghordy

    Yr orsaf nesaf ar y lein ar ôl Llanymddyfri yw Cynghordy. Oddi yma gallwch gerdded 1.5km i weld y draphont drawiadol. Bydd taith gerdded gylchol o ryw 10km i'r gorllewin o'r rheilffordd yn eich arwain nôl i Lanymddyfri i ddal trên y prynhawn.
  • LLANWRTYD

    Llanwrtyd yw'r dref leiaf ym Mhrydain gydag 850 o drigolion, ond mae'n rhagori ar ei hunan drwy gyflwyno digwyddiadau gwirion fel Dyn yn erbyn Ceffyl, Snorcelio Cors, ynghyd â’i Gwyliau Cwrw a Cherdded mwy traddodiadol. Llun gan R. Christie.
    Manylion y Digwyddiadau
  • LLWYBR CERDDED LEIN CALON CYMRU

    Y prosiect mwyaf uchelgeisiol ar y rheilffordd hon hyd yma yw'r llwybr cerdded, sydd yn waith ar fynd ond gyda darnau wedi agor yn barod ar y pen gogleddol (Sir Amwythig) a'r pen deheuol (Sir Gâr a gogledd Abertawe). Bydd y darn ym Mhowys yn agor ym mis Mawrth 2019. O Abertawe, gallech fynd allan a nôl mewn diwrnod i rai o'r darnau, ond bydd tocyn trên 48 awr yn caniatáu i chi grwydro ymhellach gan aros dros nos ar y ffordd. Gallwch ymuno a disgyn yn unrhyw orsaf felly byddwch yn mwynhau'r hyblygrwydd mwyaf o fewn cyfyngiadau'r gwasanaeth trenau.
    Ewch i'r wefan

PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG – AR Y BWS

Mae’r daith ar y bws T6 o Abertawe a Chastell-nedd yn hyfrydwch golygfaol wrth i chi gael eich tywys o’r arfordir trwy olygfeydd mynyddig mawreddog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r bws yn rhedeg bob awr ar ddiwrnodau gwaith (pump y dydd ar y Sul), ac mae’n cynnig dewis o amserau ymadael ac amserlenni teithio. Rydym wedi dewis tri lle allweddol i chi ymweld â nhw: Ogofeydd Dan-yr-Ogof, Parc Gwledig Craig-y-Nos ac Aberhonddu ei hun, a thrwy ddefnyddio gwasanaethau bysiau cysylltiol, gallech gyrraedd a dringo Pen-y-Fan (pwynt uchaf de Cymru).

  • CANOLFAN OGOFEYDD CENEDLAETHOL CYMRU

    • Dan-yr-Ogof
    Mae'r ogofeydd ysblennydd hyn yn un o atyniadau blaenllaw a mwyaf poblogaidd Cymru. Maent yn rhan o system o ogofeydd 17km o hyd o'r enw Dan-yr-Ogof, a gallwch eu cyrraedd yn uniongyrchol ar y bws T6.
    Ewch i'r wefan
  • PARC GWLEDIG CRAIG-Y-NOS

    • Castell Craig-y-Nos
    Lleolir Parc Gwledig Craig-y-Nos mewn safle dramatig a rhamantaidd yn rhan uchaf ddiarffordd Cwm Tawe. Mae'n ardd Fictoraidd 40 erw gyda choetiroedd cysgodol, dolydd, pyllau, lawntiau gwyrddlas ac afonydd byrlymog.
    Ewch i'r wefan
  • ABERHONDDU

    • Cyfnewidfa Aberhonddu
    Mae Aberhonddu’n dref farchnad ddymunol gyda llu o bethau diddorol i'w gwneud a'u gweld, yn cynnwys eglwys gadeiriol, amgueddfa gatrodol a basn camlas, ynghyd ag amrywiaeth eang o leoedd i fwyta ac yfed. Cewch ddiwrnod allan gwych yma.
    Ewch i'r wefan

TAITH DDIWYLLIANNOL I DALACHARN DYLAN THOMAS – AR Y TRÊN – AR Y BWS

Taith olygfaol ar y trên o Abertawe (10.02) neu Dre-gŵyr (10.13) i Gaerfyrddin (10.53)

Trosglwyddiad hawdd i’r bws yng Nghaerfyrddin (11.15)

Teithio ar fws lleol trwy gefn gwlad Sir Gâr

Yn Nhalacharn (11.54), ewch i weld y castell urddasol a Thŷ Cychod a Stiwdio Dylan.

Yn ôl pob sôn, Talacharn oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Dan y Wenallt’ a leolir yn nhref fechan Llareggub (beth am ddarllen hwn tuag yn ôl!)

Lleoedd gwych i fwyta ac yfed.

Dod nôl am 14.22 neu 16.54 gan newid o’r bws i’r trên yng Nghaerfyrddin.

ARDAL ANHYGOEL DE SIR BENFRO – AR Y TRÊN

Mae trenau uniongyrchol yn mynd o Abertawe a Thre-gŵyr i Dde Sir Benfro ac rydym wedi dewis dau le mae’n werth ymweld â nhw am eu harddwch a’u hanes.

Taith olygfaol ar y trên o Abertawe (10.02) a Thre-gŵyr (10.13)* ar hyd arfordir Bae Caerfyrddin yna drwy gefn gwlad bryniog hardd i dde Sir Benfro. Cyrraedd Dinbych-y-Pysgod (11.49) neu Benfro (12.23). Nôl o Benfro am 15.09 neu 17.09, o Ddinbych-y-pysgod am 15.41 neu 17.38.

Amserau dydd Llun i ddydd Gwener; amrywiadau i’r amserau ar ddydd Sadwrn; nid oes gwasanaeth addas ar y Sul.

  • DINBYCH-Y-PYSGOD

    • Dinbych-y-pysgod: 5-10 munud ar droed i'r dref, harbwr a'r traethau
    Tref furiog ganoloesol yw hon sy’n enwog am ei thraethau euraidd , ei glan y cei hanesyddol a chanol y dref, ynghyd â’r tripiau cwch i Ynys Bŷr sy'n perthyn i gymuned o fynachod Sistersaidd Diwygiedig.
  • PENFRO

    • Penfro: 15 munud ar droed i'r castell
    Prif atyniad y dref hanesyddol hon yw ei chastell canoloesol godidog, man geni'r Brenin Harri VII o Loegr. Mae'n dref brysur gyda llu o leoedd i fwyta ac yfed.