Ardal Fynyddoedd Abertawe

LLWYBRAU CERDDED A BEICIO DA.
GOLYGFEYDD GWYCH A RHYFEDDODAU CUDD.

Mae llawer o bobl heb sylweddoli bod gan ddinas fawr Abertawe gefnwlad eang y tu hwnt i’w chraidd trefol. Gŵyr yw’r mwyaf adnabyddus, ond mae rhan arall i’r gogledd o’r ddinas. Gydag un dref fechan (Pontarddulais) a nifer o bentrefi, mae hwn yn gefn gwlad mynyddig yn bennaf, sydd yn aml yn wyllt ac yn eithriadol o hardd. O’i ucheldiroedd cewch olygfeydd gwych dros y ddinas, y môr a phenrhyn Gŵyr.

Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru

BYSIAU YNG NGOGLEDD ABERTAWE A MAWR

Mae’r X13 Cymru Clipper yn rhedeg yn aml ar ddiwrnodau gwaith (gwasanaeth dydd Sul cyfyngedig) gan gysylltu Abertawe (gorsafoedd Bysiau a Threnau) â Phenllergaer, Pontlliw a Phontarddulais, ac ymlaen i Rydaman.

Mae’r 14 yn rhedeg bob awr o Glydach (Mond) i Graig Cefn Parc gan gysylltu â’r X6 o Abertawe.

Mae gwasanaeth minibws anaml bedwar diwrnod yr wythnos i Felindre a Mynydd y Gwair o Dreforys (cysylltiadau o Abertawe) er bod rhaid bwcio teithiau y tu hwnt i Felindre ymlaen llaw (DANSA 01639 751067)

Cynlluniwch eich taith

CERDDED YNG NGOGLEDD ABERTAWE A MAWR

Crëwyd y llwybr troed pellter hir, Llwybr Gŵyr gan Gymdeithas Gŵyr mewn cydweithrediad â Cherddwyr Abertawe. Mae’n rhedeg o Rosili ar ben gorllewinol Gŵyr i Benlle’r Castell yn hen Arglwyddiaeth Gŵyr i’r gogledd o Abertawe.

Mae Llwybr Lein Calon Cymru yn ymestyn dros 19.5km rhwng Pontarddulais a Lanelli drwy Gasllwchwr ac mae’n rhan o lwybr 200km datblygol sy’n rhedeg wrth ochr rheilffordd Calon Cymru.

Mae teithiau cerdded diddorol eraill yn ardal Mawr sy’n arwain i leoedd hardd ac anghysbell.

Taith Gerdded Craig Fawr o Bontarddulais
Taith Gerdded Cwm Clydach o Graig Cefn Parc
Taith Gerdded Wledig Pontlliw i Graig Cefn Parc drwy Felindre

Darganfyddwch fwy

BEICIO YNG NGOGLEDD ABERTAWE A MAWR

Mae’r Llwybr Beiciau Cenedlaethol (NCN4) yn mynd i’r dde o’r ardal rhwng Tre-gŵyr a Chasllwchwr ac ymlaen i Lwybr Arfordir y Mileniwm Llanelli. Mae llwybr beiciau lleol cysylltiol rhwng Gorseinon a Phengelli (oddi ar y ffordd rhwng Tre-gŵyr a Gorseinon) gydag estyniad i Bontarddulais ar y gweill yn y dyfodol. Mae’r NCN43 rhwng Abertawe, Treforys a Chlydach yn ffordd dda o gyrraedd Mawr drwy Graig Cefn Parc.

I’r gogledd o draffordd yr M4, mae rhwydwaith eang o ffyrdd gwledig o fewn terfynau Craig Cefn Parc i’r dwyrain, a Llangyfelach, Pontlliw a Phontarddulais i’r dde a’r gorllewin. Mae’r rhain yn dawel ac yn olygfaol iawn (er eu bod yn serth mewn mannau) ac mae hon yn ardal feicio dda.

Darganfyddwch fwy

CYFLWYNIAD I RAI O LEOEDD A GWEITHGAREDDAU

GWEFREIDDIOL GOGLEDD ABERTAWE A MAWR

Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru

HANES A THREFTADAETH

Mae Pontarddulais yn dref fechan sydd â hanes cyfareddol – mae peth tystiolaeth ohono i’w weld o hyd. Roedd yn ganolfan i nifer o weithiau dur a thunplat a daeth yn ddrwg-enwog yn 1843 am ei bod yn ferw o brotestiadau. Cychwynnodd hyn pan osododd y Terfysgoedd Rebeca cyntaf warchae ar dollborth Bolgoed (y tollborth oedd y man lle byddai tollau’n cael eu casglu ar gyfer y ffordd dyrpeg ac roedd yn achos aflonyddwch). Mae carreg goffa’n nodi lleoliad y tollborth yng ngorllewin y dref (gyferbyn â Thafarn y Fountain).

Mae’r dref ym mhlwyf Llandeilo Talybont, ac ynghynt safai hen eglwys Teilo Sant ar lan yr afon i’r dde o’r dref. Symudwyd yr eglwys gyfan i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ond mae’r safle’n parhau i fod o ddiddordeb oherwydd yr olion o’i hanes sydd yno o hyd.

Ym Mharc eang Coedbach saif celli odidog o goed derw hynafol.

  • LLWYBR TREFTADAETH PONTARDDULAIS

    • Canol tref Pontarddulais X13
    • Pontarddulais: Llinell Calon Cymru (gwasanaeth cyfyngedig)
    Mae llwybr pedair milltir wedi cael ei greu i'ch tywys drwy dref fechan yng Nghymru sy'n llawn dop o storïau. Nid oes arwyddbyst yn dangos y llwybr felly mae angen i chi lawrlwytho pdf fel canllaw.
    PDF lawrlwytho
  • CAPEL GELLIONNEN

    • New Inn, Craig Cefn Parc 14
    Mae’r capel hwn yn nodedig am ei bellenigrwydd – adeiladwyd yn 1692 ger copa Mynydd Gellionnen ac mae'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd hyd heddiw. Cafodd ei sefydlu gan grŵp o anghydffurfwyr Protestannaidd a fyddai’n cwrdd yn gyfrinachol cyn hynny mewn tai a ffermydd lleol. Bu'n lloches i'r anghydffurfwyr am flynyddoedd lawer a daeth yn Gapel Undodaidd ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'n dirnod allweddol ar daith gerdded 14.5km egnïol Cwm Clydach (gweler y pdf) sy'n cychwyn ac yn diweddu wrth fynedfa gwarchodfa'r RSPB (New Inn), Craig Cefn Parc.

PARCIAU A GWARCHODFEYDD

I’r gogledd o Abertawe mae trysorau cudd rhyfeddol sy’n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Maent yn gyrchfannau gwych ar gyfer diwrnodau allan dymunol.

  • CRONFEYDD DŴR LLIW

    • Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
    • Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
    • Felindre (ffordd fynediad i’r gronfa ddŵr isaf – 1km), 142 (anaml – gwasanaeth 4 diwrnod yr wythnos o Sgwâr Treforys)
    • (opsiwn arall) Swyddfa Bost Pontlliw X13, cerdded i Felindre – 5km
    Lleolir cronfeydd Lliw Isaf ac Uchaf mewn ardal o olygfeydd mynyddig syfrdanol ac maent yn cynnal amrywiaeth eang o fflora a ffawna. Ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, y cynllun gorau yw cynnwys y rhain mewn taith gerdded leol o Bontlliw neu Graig Cefn Parc.
    PDF lawrlwytho
  • COED CWM PENLLERGAER

    • Heol Abertawe, Penllergaer (0.5 km) X13
    Crëwyd y parcdir anhygoel hwn gan yr amgylcheddwr Fictoraidd o'r 19eg ganrif, John Dillwyn Llewelyn, ac mae'n baradwys ddarluniadwy, ramantaidd sy'n cael ei hadfer yn barhaus. Mae i’r parc olygfeydd panoramig, coedwig, llynnoedd a rhaeadr ysblennydd.
    Ymwelwch â gwefan
  • Cwm Clydach

    • Craig Cefn Parc New Inn (cyfagos) 14
    Mae'r ardal eithriadol o hardd hon, gyda'i thirweddau gwyllt, ar ymylon gogleddol Abertawe yn ardal gerdded ardderchog. Mae hefyd yn gartref i warchodfa adar Cwm Clydach yr RSPB sef parc llinol mewn lleoliad coediog gydag amrywiaeth eang o adar.

ADLONIANT AC ANTUR

  • LLANGYFELACH – CANOLFAN PLEDU PAENT A GWEITHGAREDDAU TEAMFORCE

    • Llangyfelach Plough & Harrow (2 km) 35
    • O'r A48 yn Llangyfelach, dilynwch yr isffordd tua'r gogledd (ag arwyddion i Felindre) am 2km a throi i'r dde ar drac sydd â'r arwydd Teamforce.
    Teamforce Paintball & Activity Centre – pledu paent, saethyddiaeth, tag laser, saethu reifflau, a meithrin tîm
    Ymwelwch â gwefan
  • MYNYDD Y GWAIR

    • X13 Pontlliw or Pontarddulais
    Mae'r ardal fawreddog hon o fynyddoedd a gweundir ar hyd ffin ogleddol y sir yn lle gwych ar gyfer cerdded a beicio. Mae'n anodd cyrraedd yma ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae ffyrdd hir, sydd yn aml yn syth ac weithiau'n serth, yn creu profiad beicio penigamp. Mae hefyd yn lle gwych i'r cerddwr egnïol er y dylech baratoi ar gyfer taith hir os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Y man cychwyn o'r de yw Pontlliw a Phontarddulais ac o'r gogledd, Rhydaman yn Sir Gâr gyfagos. Gwasanaethir pob un o'r rhain gan y bws X13

LLEOEDD I AROS