Crwydro'r Arfordir:

Bae Caswell – Ystumllwynarth

TAITH GERDDED OLYGFAOL IAWN AR LWYBRAU TROED Â WYNEB CALED YN BENNAF

Mae’r daith hon yn gyfle i fwynhau’r golygfeydd godidog o glogwyni a thraethau ar hyd Baeau Langland a Breichled, Trwyn y Mwmbwls a thref glan môr Fictoraidd Y Mwmbwls.

Gallwch wneud y rhan hon mewn camau hawdd gyda chyfleoedd i aros am saib a lluniaeth ar y ffordd. Y dewis gorau yw cerdded tua’r dwyrain gan fod amrywiaeth eang o gyfleusterau yn Ystumllwynarth, a bysiau dwyffordd aml.

MWY O FANYLION

MANYLION Y LLWYBR

Mae’r Llwybr Arfordir yn cychwyn 50 metr oddi wrth y derfynfa fysiau (CG 594877) i’r chwith o Gaffi’r Surfside. Mae’r llwybr â wyneb caled yn cychwyn yn eithaf serth ac yn cadw gyda’r arfordir yr holl ffordd i Fae Langland (CG 609874) lle byddwch yn cerdded ar hyd y promenâd gyda’i gytiau glan môr eiconig.

O Fae Langland, mae’r llwybr yn troi unwaith eto ac yn cadw gyda’r arfordir am ychydig nes iddo gyrraedd Rotherslade lle mae’n mynd heibio i’r traeth o raean bras ac yna’n dilyn yr arfordir unwaith eto.

 

Mae’r llwybr yn troi i mewn i Limeslade (CG 626872), ac yn eich tywys ar hyd y palmant uwchlaw Bae Breichled a heibio i’r Afal Mawr. Oddi yno disgynnwch y grisiau niferus i gyfadeilad Pier y Mwmbwls (CG 630874).

O Bier y Mwmbwls i Ystumllwynarth (CG 616883) byddwch yn cerdded ar hyd llwybr beicio gwastad Bae Abertawe, sef hen wely trac Rheilffordd y Mwmbwls sydd â wyneb caled.

MWY O FANYLION