Crwydro'r Arfordir:
Bae Oxwich – Porth Einon
TAITH GERDDED AR HYD PEN Y CLOGWYNI GYDA GOLYGFEYDD GOGONEDDUS O FAE PORTH EINON
Dyma ran ddramatig arall o’r Llwybr Arfordir, y tro hwn yn dilyn y penrhyn mawr o gwmpas Trwyn Oxwich.
Byddwch yn mwynhau mwy o olygfeydd mawreddog o glogwyni ac arfordir uwchben Bae Porth Einon, cyn troi tua’r gorllewin uwchlaw cildraeth Slade, at y traeth tlws islaw pentref Horton ac yna ymlaen i bentref glan môr Porth Einon.
MANYLION Y LLWYBR
Disgynnwch oddi ar y bws wrth y safle bysiau ar y groesffordd yng nghanol y pentref (CG 500864). I gyrraedd y Llwybr Arfordir, trowch i’r chwith ar y groesffordd a cherdded 200 metr at lan y môr gyda Gwesty’r Oxwich Bay ar y dde. O’r gwesty mae’r llwybr yn mynd i mewn i’r coetir gydag eglwys hanesyddol Illtyd Sant ar y chwith.
Cerddwch heibio i’r eglwys ac i fyny’r llwybr serth sydd â thua 200 o risiau, nes i chi gyrraedd llwyfandir uchel gyda golygfeydd gwych dros Drwyn Oxwich. Cyn hir byddwch yn disgyn ar hyd darn sydd yr un mor serth ac â mwy o risiau nes byddwch yn union uwchben yr arfordir ei hun.
Mae’r llwybr yn dal i gadw gyda’r arfordir â’i byllau a’i greigiau clegyrog am 3 cilometr, ond rhaid i chi gadw golwg am ddargyfeiriad sylweddol i’r tir islaw Slade (CG 487856) oherwydd bod yr arfordir wedi erydu’n ddifrifol yn y man hwn. Ymhen amser mae’r arfordir garw’n newid yn draeth o dywod mân, gyda phentref tlws Horton o’i gwmpas. Gall arwyddion y Llwybr Arfordir fod yn anodd eu gweld yma, ond parhewch i anelu am y gorllewin a’r de orllewin, yn union uwchben y traeth a byddwch yn cyrraedd Porth Einon mewn 1 cilometr.
Mae’r llwybr yn diweddu ar lan y môr ym mhentref Porth Einon (CG 468852), lle mae nifer o leoedd i fwynhau bwyd a diod. Mae toiledau cyhoeddus a Hostel Ieuenctid poblogaidd yma hefyd.
Mae eich bws nôl i Abertawe yn gadael o’r safle bysiau 50 metr ar hyd y ffordd o’r cylchfan.