Crwydro'r Arfordir:

Clogwyni Pennard – Bae Oxwich

TAITH HAMDDENOL DRWY GOETIR, TWYNI TYWOD A GWARCHODFA NATUR

Mae’r rhan hon o’r Llwybr Arfordir, sy’n croesi Twyni Pennard i Fae’r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich, yn hollol wahanol ac unigryw ei chymeriad, wrth iddi groesi coetir, twyni a thraeth.

Mae clogwyni a chreigiau o gwmpas Tri Chlogwyn cyn i chi gerdded wrth ochr y traeth a’r morfa nes cyrraedd pentref tlws Oxwich.

MWY O FANYLION

MANYLION Y LLWYBR

Mae’r bws o Abertawe yn eich gadael 50 metr oddi wrth y Llwybr Arfordir yng Nghlogwyni Pennard (CG 554874) ac er mai prin yw’r arwyddion, y cam gorau yw cerdded i gyfeiriad yr arfordir gan droi i’r dde a dilyn isffordd am tua 500 metr. Nid oes llwybr penodol ar ddiwedd y ffordd hon, dim ond cyfres o lwybrau glaswellt cyfochrog yn agos i’r clogwyni. Mae golygfeydd syfrdanol oddi yma o Fae’r Tri Chlogwyn, Bae Tor a Thrwyn Oxwich.

Ar ôl un cilometr, mae’r llwybr yn disgyn yn serth trwy dwyni tywod meddal y mae’n anodd cerdded arnynt. Byddwch yn cyrraedd y môr ar Draeth Pobbles ac oddi yno, yn dibynnu ar y llanw, gallwch gerdded o gwmpas y tri chlogwyn neu fynd drwy dwll yn y creigiau i gyrraedd Pennard Pill. Bydd rhaid i chi ddefnyddio’r cerrig stepiau i groesi’r Pill ac eithrio pan fo’r môr ar drai.

Mae’r llwybr yn dringo’n serth (CG 537884) at y tir uchel uwchlaw Bae Tor. Oddi yma, mae’n mynd i ganol y tir i Nicholaston ac yna drwy goetir trwchus am ychydig dros gilometr (mae’r arwyddion yn annibynadwy yn y goedwig ond trowch i’r dde ger y dderwen fawr) cyn disgyn i Dwyni Nicholaston. Mae’r llwybr yn mynd heibio i gymysgedd o dir prysg a chorstir cyn croesi pont gerddwyr i Warchodfa Natur Genedlaethol Oxwich.

Wrth adael y warchodfa, anelwch am y ffordd a cherdded wrth ei hymyl ar ochr y môr i Bentref Oxwich. Mae’r rhan hon o’r Llwybr Arfordir yn diweddu yn Oxwich Cross (CG 500864) o ble mae’r bws i Abertawe’n gadael. Nepell o’r llwybr saif Gwesty’r Oxwich Bay sy’n cynnig amrywiaeth eang o luniaeth.

MWY O FANYLION