Rural Ramble:

Clydach i Bontardawe

Taith gerdded hanesyddol drwy harddwch naturiol eithriadol ar hyd Camlas Abertawe

Mae hanes cludiant diddorol yn yr ardal o gwmpas Pontardawe ac yn ffodus mae Camlas Abertawe, sy’n ffurf gynnar ar seilwaith swmpgludo, mewn bod o hyd i raddau helaeth. Mae’r sefyllfa’n llai ffodus o ran y rheilffyrdd gan fod holl olion Rheilffordd y Midland ym Mhontardawe wedi cael eu dileu gan ddatblygiad ffyrdd ac archfarchnad.

Agorwyd Camlas Abertawe, sy’n 26 cilometr o hyd, yn 1798 a chafodd ei hadeiladu i gludo haearn o Ystalyfera a Phontardawe i Ddociau Abertawe. Erbyn 1873, roedd wedi ei gwerthu i Reilffordd y Great Western (GWR) a ystyriai bod hyn yn ffordd o gystadlu â Rheilffordd y Midland oedd wedi agor yn ddiweddar. Erbyn 1902, nid oedd y gamlas yn broffidiol bellach a daeth trafnidiaeth fasnachol i ben yn 1931. Dim ond y 6 milltir isaf oedd yn weithredol ar ôl 1904. Cyflwynwyd cyfres o ddeddfau rhwng 1928 a 1962 i gau’r gamlas ar gyfer trafnidiaeth gludo, ond mae’n cael ei defnyddio o hyd ar gyfer cyflenwi dŵr diwydiannol.

Agorwyd rheilffordd newydd gan y GWR yn 1911 i gysylltu lein Ardal Abertawe yn Felin Fran â Gwaun Cae Gurwen i hybu datblygiad glofeydd yno. Dim ond darnau byr ar bob pen gafodd eu hadeiladu; codwyd argloddiau, cloddiadau a thwnnel ar yr adran o Drebanos i Gwm-gors, ond ni osodwyd trac erioed.

Roedd Pontardawe yn dref ddiwydiannol o bwys mawr gyda gwaith dur gweithredol a diwydiannau metel cysylltiedig tan ddechrau’r 1960au. Mae’r rhain, ynghyd â’r rheilffyrdd a’r seilwaith diwydiannol arall wedi cael eu dileu bron yn llwyr, a’u disodli gan ffyrdd, diwydiant ac allfeydd adwerthu.

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

O’r safle bysiau yng Nghlydach (CG 695014), ewch i gyfeiriad yr A4067, gan ymuno â llwybr halio’r gamlas wrth loc Clydach (ar y chwith) ar ôl 100 metr.

Gallwch weld peth o’r gwaith adfer cynharach ar y gamlas ac mae’r hen loc mewn cyflwr da. Mae’r gamlas i gyfeiriad Abertawe yn parhau am bellter byr yn unig – y tu hwnt i’r man hwn, cafodd ei llenwi flynyddoedd yn ôl. Ar draws y ffordd, mae swyddfeydd a gwaith yr International Nickel Co o ddiddordeb. Mae ar agor i fusnes o hyd, ac yn oroeswr diwydiannol prin.

Ar ôl tua 200 metr, mae’n ymddangos bod y llwybr wedi ei rwystro gan hen ddepo’r cyngor ond gallwch gerdded drwyddo’n ddiogel ac ailymuno â’r llwybr yr ochr arall cyn croesi dan y ffordd, a dod allan wrth fasn camlas gyda chanolfan ymwelwyr (ar agor bob penwythnos).

Oddi yma, mae’r llwybr yn mynd drwy gefn gwlad hynod hardd gyda’r gamlas ar y chwith a Pharc Coed Gwilym ar y dde. Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr y tu hwnt i’r parc am 2 gilometr arall nes i chi gyrraedd loc adfeiliedig Trebanos. Yn fuan wedyn, mae’r prif lwybr (yr NCN 43 hefyd) yn gwyro i’r dde ac argymhellir eich bod yn dilyn y llwybr dros y rhan o’r gamlas sydd wedi’i llenwi nes i chi gyrraedd cyrion Pontardawe. Mae’n mynd dan y ffordd osgoi, yn dringo rhyw ychydig wrth groesi Afon Clydach Uchaf mewn man lle mae’r gamlas sydd mewn bod o hyd yn mynd dros draphont dŵr, ac mae’n dod allan yn Stryd Herbert.

Mae’n ymddangos mai datblygiad diwydiannol mwy diweddar oedd y rheswm pam gafodd y rhan hon o’r gamlas ei llenwi ac mae’n anodd gweld ble roedd y cysylltiad â’r rhan sydd mewn bod o hyd ychydig i’r de o Stryd Herbert; mae ei lefel uwch yn awgrymu bod loc arall yma ar un adeg.

Efallai yr hoffech fynd allan o’ch ffordd ryw ychydig i safle’r ‘rheilffordd na fu mewn bod erioed’; os felly, cerddwch i fyny Stryd Herbert, trowch i’r chwith wrth y goleuadau traffig ac ar hyd y B4603 i gyfeiriad Trebanos. Ar ôl 1
cilometr, trowch i’r dde i Heol Graig ac ar ôl dringo am ychydig, byddwch yn cyrraedd ategweithiau pont rheilffordd. Mae llwybr troed yn eich arwain i wely trac yr hyn a fwriadwyd yn rheilffordd rhwng Trebanos a Chwm-gors: gwnaed y gwaith saernïo, ond ni osodwyd trac erioed.

Dilynwch y llwybr, sy’n gyfochrog â Heol Abertawe, am 0.75 cilometr nes i chi gyrraedd tai (ar y dde); yma, fe welwch hen bont adawedig a groeswyd gan dramffordd gynt yn ôl pob tebyg. Mae’r llwybr yn arw ond nid yw’n beryglus a bydd y cerddwr dewr yn gallu mynd at fynedfa’r twnnel na chafodd ei ddefnyddio erioed (nid oes mynediad i hwn).

A dyma ddarn olaf o wybodaeth ddiddorol: codwyd adeilad to fflat y tu mewn i’r twnnel yn ystod yr Ail Ryfel Byd, nid ar gyfer storio bwledi, ond i ddal cofnodion Cyngor Trefol Pontardawe, yr ystyriwyd wrth gwrs y byddent o ddiddordeb i’r gelyn!

Ewch yn ôl i ganol tref Pontardawe.

Pellterau metrig a roddir ym mhob man
Mae CG yn cyfeirio at gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans

Darllen mwy