Crwydro'r Arfordir:

Llanmadog – Llanrhidian

TAITH GERDDED DDIDDOROL AR HYD YR ARFORDIR A MORFEYDD HELI LLANRHIDIAN

Mae rhan ogleddol Gŵyr yn hollol wahanol i’r golygfeydd dramatig o glogwyni a thraethau yn y de – mae hwn yn arfordir mwy gwastad a nodweddir gan ehangder Moryd Llwchwr, gan draethellau llaid a morfeydd heli.

Yn benodol, mae Morfa Llanrhidian yn gynefin adar a bywyd gwyllt sy’n enwog yn rhyngwladol. Mae’r rhan hon o’r llwybr arfordir yn mynd heibio i bentrefannau a hen ffermydd gwasgaredig, ac yng Nghastell Weble, mae’n cysylltu tri phentref sy’n nodweddiadol iawn o ogledd Gŵyr.

MWY O FANYLION

MANYLION Y LLWYBR

Nid yw’r Llwybr Arfordir yn mynd drwy Lanmadog gan ei fod yn gwyro i’r gogledd a’r gorllewin am rai cilometrau ar hyd Trwyn Whitffordd. Ar gyfer y daith hon, disgynnwch wrth y Britannia Inn (CG 439934) a cherddwch i fyny’r bryn i gyfeiriad y pentref am 50 metr, gan droi i ffordd bengaead sy’n arwain i drac fferm ac yn ymuno â’r Llwybr Arfordir wrth Fwthyn Pill. Trowch i’r dde yma* ac ewch heibio i Forfa Landimôr tua’r môr a North Hill Tor tua’r tir.

*Pan fo’r llanw’n uchel, gallai’r rhan sy’n mynd ar draws Pill Llanmadog fod ar gau. Ewch nôl ar hyd yr un llwybr i Lanmadog yna drwy Cheriton/Fferm North Hills ac ailymuno â’r llwybr yn CG 454938.

Mae’r llwybr yn dilyn trywydd gwastad islaw’r clogwyni serth drwy bentrefan Landimôr (CG 465934). Oddi yma mae’n troi i’r tir am tua 200 metr, yna i’r chwith drwy gât fechan ac yn croesi sawl cae cyn troi’n llwybr glaswelltog islaw gwarchodfa natur leol Coed Hambury, sy’n enwog am ei hadar. Yn ffodus, mae’r arwyddbyst yn dda iawn ar y rhan hon sydd heb unrhyw dirnodau amlwg.

Mae Castell Weble’n ymddangos o’ch blaen ar ei uchelfan a chyn hir mae’r Llwybr Arfordir yn croesi sarn sy’n mynd oddi ar y ffordd am ddau gilometr i ganol Morfa Llanrhidian. Dilynwch y trac hwn (i’r dde) os hoffech ymweld â Chastell Weble.

Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr islaw’r Castell sy’n troelli yn ôl a blaen drwy goetir trwchus a chaeau agored ond sydd bob amser â’r morfa tua’r môr a chlogwyni serth tua’r tir.

Mae dau ffermdy tua’r môr yn dangos lle mae pentref Llanrhidian yn cychwyn a chyn hir mae’r llwybr yn troi’n isffordd i ganol pentref Llanrhidian. Mae tafarn y Dolphin Inn yn gweini diodydd a phrydau bar ac mae’n fan da am saib cyn taclo’r tyle serth iawn (am 500 metr) i Lanrhidian Cross (CG 498920), y prif safle bysiau ar gyfer bysiau nôl i Abertawe.

MWY O FANYLION