Crwydro'r Arfordir:
Llanmadog – Rhosili
TAITH GERDDED HERIOL O GWMPAS CLOGWYNI GOGLEDD GŴYR AC AR HYD TRAETH RHYFEDDOL RHOSILI
Mae hon yn daith ar hyd y rhan o’r Llwybr Arfordir sy’n dilyn ymyl gorllewinol Penrhyn Gŵyr.
Bydd cyfle i fwynhau golygfeydd gogoneddus o’r traethau – Traeth Whitffordd, Bae Broughton a thraeth enwog Rhosili, sy’n ymlwybro wrth ymyl Rhos hardd Rhosili.
MANYLION Y LLWYBR
Nid yw’r Llwybr Arfordir yn mynd drwy bentref Llanmadog gan ei fod yn gwyro i’r gogledd a’r gorllewin am rai cilometrau Trwyn Whitffordd. I ymuno â’r Llwybr Arfordir, disgynnwch yn y derfynfa fysiau (CG 439934) a cherdded i fyny’r bryn i gyfeiriad yr eglwys am 200 metr. Yna trowch i’r dde i ffordd bengaead ac ewch drwy gât yng Nghwm Ivy. Ewch yn eich blaen at y gyffordd gyntaf, sydd nawr ar y Llwybr Arfordir ac yna ymlaen at drac certi, gyda Cwm Ivy Tor ar y chwith, at ail gyffordd. Ewch yn syth yn eich blaen at lwybr eithaf serth drwy goedwig fach ac i fyny at y golygfan ar Hills Tor. Oddi yma, mae llwybr glaswelltog yn cadw’n agos i’r arfordir, cyn troi i’r tir rhyw ychydig tuag at Dwyni Broughton.
Ar y chwith mae llwybr troed i Fferm Lagadranta lle gallwch brynu lluniaeth ysgafn yn ystod y tymor prysur. Mae’r llwybr glaswellt yn mynd i mewn i barc carafanau a, hanner ffordd drwyddo, mae’n troi’n siarp i’r dde ac yn anelu am yr arfordir ar hyd llwybr pren drwy’r twyni. Mae’r llwybr pren oddi yma at yr arfordir yn Burry Holms yn hawdd ei gerdded ac mae’n mynd heibio i’r Pwll Glas diarffordd, hardd (ar y dde). Yn Burry Holms, mae’r llwybr yn troi’n sydyn i’r chwith ac yn disgyn at yr arfordir ar ben pellaf traeth Rhosili.
Ewch yn eich blaen ar hyd y traeth am 1.5km a throi i’r tir ychydig y tu hwnt i Lyn Diles (nid yw’r arwyddion yn dda yma) i mewn i Barc Gwyliau Hill End. Yna anelwch am y brif fynedfa a throi i’r dde at lwybr troed sy’n dilyn y gyfuchlin ar hyd ymyl Rhos Rhosili, gyda golygfeydd gwych o’r traeth. Ewch yn syth ymlaen uwchlaw’r traeth, gan fynd heibio i’r hen ficerdy (ar y dde) cyn dringo’n serth i gyfeiriad pentref Rhosili.
Mae’r llwybr yn cyrraedd y brif ffordd ger yr eglwys a dim ond 100 metr oddi wrth y derfynfa fysiau (CG 416880). Efallai yr hoffech gerdded i lawr i’r pentref ei hun am fwyd, diod a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyn dal eich bws nôl i Abertawe.