Crwydro Cefn Gwlad
Llwybr Cwm Dyffryn
Taith gerdded hanesyddol hyfryd ar hyd yr hen reilffordd
Roedd lein Cwmni Rheilffordd a Dociau Port Talbot yn cysylltu glofeydd Cwm Garw a Chwm Llynfi â dociau Port Talbot ac mae’r daith hon ar hyd rhan harddaf y llwybr hwnnw, drwy Gwm coediog Dyffryn.
Agorwyd y lein yn 1898 ac o 1911 ymlaen, cafodd ei phrydlesu a’i rhedeg gan Reilffordd y Great Western, a’i meddiannodd yn 1922. Ei phrif nod oedd dwyn masnach oddi wrth yr harbwr ym Mhorthcawl trwy gynnig cyfleusterau gwell ym Mhort Talbot. Rhedwyd trenau teithwyr o’r cychwyn cyntaf, nes i hyn ddod i ben yn 1933, ond roedd terfynfa ym Mhort Talbot am 30 mlynedd ar ôl hynny.
Does braidd dim ar ôl o’r rheilffordd bellach heblaw am wely’r trac ac nid oes olion o’r glofeydd bychain i’w gweld yn y rhan hon. Diflannodd yr hen siediau locomotifau enfawr yn Iard Dyffryn dan ddatblygiad tai modern yn y Goetre yn 1964 ac mae’r groesfan â’r enw difyr ‘Croesfan y Capel Anwes’ dros yr A4107 wedi hen fynd bellach.
Ynghyd â gwerthfawrogi ei hanes, mwynhewch heddwch a llonyddwch y cwm hardd hwn heddiw, a chân yr adar sy’n byw yn y goedwig.
Manylion y Llwybr
Disgynnwch o’r bws wrth Royal Oak y Bryn, a thu ôl i’r dafarn (CG 819920) cerddwch i Deras yr Orsaf ble byddwch yn ymuno â’r hen reilffordd.
Roedd gorsaf drenau’r Bryn yn agos i’r Royal Oak ac aeth y lein yn ei blaen tua’r gogledd i Faesteg a thu hwnt. Byddwch yn gweld cyfeiriadau at ‘Fwystfil y Bryn’ ar ôl i nifer o bobl weld anifail mawr, du tebyg i banther. Rhoddodd hwn ei enw i’r ras 25km flynyddol o gwmpas yr ardal, sy’n defnyddio’r rheilffordd yn rhannol. Roedd glofa’r Bryn yr ochr draw i ffordd y B4282 gyferbyn â’r Royal Oak.
I gychwyn, mae’r llwybr yn wastad uwchlaw’r pentref cyn iddo ddisgyn yn raddol a chroesi isffordd ar ôl 1 cilometr.
Oddi yma, mae’n troi’n raddol i mewn i Gwm Dyffryn ar lwybr uchel uwchben yr afon, ble mae’r amgylchoedd yn mynd yn fwy coediog fesul tipyn. Mae’n cwrdd â’r ffordd (ar y chwith) ar ôl 3 chilometr ac ar ôl hynny, mae’r rheilffordd a’r ffordd yn rhedeg yn gyfochrog trwy ardal goediog. Noder y parc gwyliau (ar y chwith), a adeiladwyd ar safle pwll glo (CG 788900), a phentref Goetre ar y bryn i’r chwith.
Roedd yr esgyniad ‘graddol’ y cyfeiriwyd ato uchod yn eithaf serth yn nhermau rheilffyrdd (2.5%) ac yn aml roedd angen locomotif cynorthwyol ar drenau trymion wrth deithio tua’r gogledd. Nid oes llawer o olion o’r hen lofeydd bellach er bod nifer o gloddfeydd drifft yn bodoli gynt yn agos i Barc Gwyliau Goytre Valley.
Ychydig ymhellach ymlaen, mae’r llwybr yn dod i ben yn sydyn ac rydych yn cerdded wrth ochr yr afon (ar y dde) gyda stad dai (ar y chwith) ar safle hen siediau locomotifau Iard Dyffryn.
Roedd y siediau hyn yn bwysig gan eu bod yn gyfrifol am waith cynnal a chadw ar y fflyd fawr o locomotifau cludo a siyntio a wasanaethai’r gwaith dur ym Mhort Talbot. Caewyd y siediau yn 1964, a throsglwyddwyd y locomotifau stêm oedd ar ôl i Gastell-nedd, a’r locomotifau diesel i ddepo newydd ym Margam.
Mae’r llwybr yn dod allan ar y tro ar ffordd yr A4107 ac rydych yn troi i’r dde ac yna i’r chwith a cherdded i lawr Stryd Tanygroes, gan droi i’r chwith i Stryd yr Eryr.
Ar y chwith ar yr A4107 mae hen gapel ac roedd gan y caban sy’n rheoli’r groesfan reilffordd yn y man hwn yr enw rhyfedd, ‘Croesfan y Capel Anwes’ ar ôl Eglwys y Groes Sanctaidd (sydd bellach yn ‘gapel gorffwys’!)
Ar ben pellaf Stryd yr Eryr, rydych yn mynd heibio i safle’r orsaf Ganolog (ar y dde) cyn i chi gyrraedd yr A48; trowch i’r dde yma ac mae eich taith yn diweddu yng ngorsaf Parcffordd Port Talbot.
Nid oes olion o’r orsaf Ganolog a oedd yn iard nwyddau tan y 1960au, er iddi gau i deithwyr yn 1933.