Crwydro Cefn Gwlad:

Llwybr Richard Burton

Richard Burton y Chwedl

Agorodd Llwybr Richard Burton yn 2011 i goffáu’r actor a’r seren ffilmiau mawr o Gymru (1925-1984). Ganwyd Richard yn fab i löwr ym Mhont-rhyd-y-fen, a chafodd ei fagu yn Nhaibach, Port Talbot. Cymerodd ran mewn cynyrchiadau drama gyda’r YMCA lleol yna symudodd i Lundain i ddod yn actor Shakespearaidd ac wedyn yn seren ffilmiau Hollywood byd-enwog.

Oherwydd y topograffi, roedd gweu llwybrau trafnidiaeth drwy’r ardal yn anodd iawn, a dyna’r rheswm am y traphontydd niferus. Roedd tair o’r rhain yn cludo leiniau rheilffordd i gysylltu glofeydd yr ardal â Phort Talbot. Roedd Rheilffordd Port Talbot (PTR) o Donmawr yn croesi’r afon ar draphont o frics coch gyda 10 bwa (mewn bod o hyd). Roedd Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe (R&SBR) o Gwm Rhondda’n croesi ddwywaith ymhellach i fyny’r cwm ar draphontydd un bwa. Roedd y draphont arall (mewn bod o hyd) yn draphont dŵr yn wreiddiol, a gludai gyflenwad dŵr ar draws y cwm i wasanaethu’r gweithfeydd haearn lleol.

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

O safle bysiau Oakwood, cerddwch i lawr y rhiw, croeswch yr afon gyda’r draphont dŵr ar y chwith, yna trowch i’r dde i isffordd sy’n arwain i faes parcio Rhyslyn (CG 796842).

Rhyslyn yw safle hen orsaf yr R&SBR ym Mhont-rhyd-y-fen a gellir gweld gwrthgloddiau (ar y dde) ble roedd y platfform gynt. Wrth fynd tua’r dwyrain, roedd dwy reilffordd: yr R&SBR a groesai’r afon ar draphont uchel un bwa (ble mae pont droed bellach), a’r llall yn lein cangen a adeiladwyd ond na chafodd erioed ei defnyddio i gysylltu â Rheilffordd Fwynau De Cymru.

Ewch tua’r gorllewin i Ryslyn ac ar ôl 200 metr, gwyrwch i’r dde, dilynwch y ffordd uchaf, trowch i’r chwith dros y draphont dŵr i Oakwood. Yna trowch i’r dde i lawr y grisiau ac ewch ar hyd Stryd Penhydd, heibio i’r ysgol (ar y dde) cyn disgyn i’r Llwybr a chroesi’r draphont odidog o frics coch.

Ar y rhan hon, byddwch yn croesi dwy nodwedd ddiddorol o seilwaith cludiant: y draphont dŵr a adeiladwyd yn 1825 i gyflenwi dŵr i’r rhodau dŵr enfawr yn ffwrneisi chwyth y gwaith haearn; a’r draphont odidog o frics coch sy’n croesi’r Afan yn y man lle mae’n cydgyfeirio â’r Pelenna. Adeiladwyd hon ar ddiwedd y 19eg ganrif i gludo glo o Donmawr i Bort Talbot, ac fe gaeodd yn 1964.

Dilynwch y Llwybr am 500 metr tua’r gogledd, gan droi ar letraws i’r dde at ffordd goedwig sy’n arwain i Bont-rhyd-y-fen. Trowch i’r dde i’r heol sy’n mynd dan y draphont, yna i’r chwith, gan groesi’r afon ar bont droed. Yna dringwch y grisiau i ailymuno â’r prif Lwybr. Trowch i’r dde a dilynwch y Llwybr i gyfeiriad Cwmafan ble cewch olygfeydd da i lawr y cwm; mae’r Llwybr yn crwydro oddi wrth yr hen aliniad rheilffordd ble roedd rheilffordd cangen Tonmawr yn ymuno â’r R&SB.

Yn Nhachwedd 1960, bu gwrthdrawiad benben rhwng trên glo oedd wedi rhedeg yn rhydd i lawr y cwm a thrên teithwyr diesel ar ei ffordd i’r Rhondda. Ar yr adeg honno, dim ond brêcs llaw oedd gan y wagenni glo ac ar lethrau serth, gwaith y gard oedd rhoi rhai o’r brêcs i atal rhedeg. Dangosodd y ddamwain beth sy’n digwydd pan fod rhywun yn gwneud penderfyniad gwallus, gyda chanlyniadau angheuol yn yr achos hwn! Bu’r ddamwain yn y newyddion cenedlaethol.

Yn y man hwn, mae’r llwybr yn gwyro oddi wrth y rheilffordd R&SB wreiddiol (a deithiai i gyfeiriad Cwmafan). Cilometr ymhellach ymlaen, rydych yn cyrraedd y Fainc Portreadau, ble mae cerfluniau dur gwir faint yn dathlu tri chymeriad lleol amlwg: y seren ffilmiau, Richard Burton, y digrifwr a anwyd yn lleol, Rob Brydon, a chyn brif geidwad Parc Coedwig Afan, Richard Wagstaff.

Oddi yma mae’r llwybr yn gwyro i’r dde gan ddisgyn yn raddol at yr afon a groesir ar bont droed ddur sy’n arwain i ran uchaf Cwmafan. Dilynwch yr arwyddion ‘beicio’ i’r Ganolfan Gymunedol (CG 781921) a diwedd y Llwybr. Efallai yr hoffech barhau ar hyd Jersey Row a London Row at eglwys blwyf San Mihangel y mae ei thŵr yn dyddio o’r 16eg ganrif.

Yn y gorffennol, roedd Cwmafan yn ganolfan flaenllaw i ddiwydiannau metel (haearn, tun, copr) ac i waith brics. Ond ni fu’r rhain yma’n hir: cawsant eu hagor yn y 1870/80au ond roedd pob un wedi cau mor gynnar â 1914. Yn anffodus, nid oes unrhyw olion o’r rhain bellach.

Pellterau metrig a roddir ym mhob man
Mae CG yn cyfeirio at gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans

Darllen mwy