Crwydro Cefn Gwlad:
Llwybr Treftadaeth Aberdulais
Treftadaeth Cludiant a Diwydiannol yng nghanol harddwch naturiol
Roedd Aberdulais yn un o’r mannau poeth diwydiannol niferus ar hyd y canrifoedd ac yn gyfnewidfa gludiant bwysig. Mae’r llwybr yn cysylltu Tonna â Chamlesi Tennant a Chastell-nedd, safle’r Gwaith Tun a’r Rhaeadr.*
*Mae mynediad i safle Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yn gyfyngedig o ran oriau/diwrnodau agor yn y gaeaf.
Manylion y Llwybr
Disgynnwch o’r bws X7 ar Heol Henfaes, Tonna a throwch i’r chwith ar unwaith (CG 770988) i ffordd bengaead fechan sy’n arwain i Gamlas Castell-nedd wrth loc Tyn-yr-Heol (200 metr).
Cafodd Camlas Castell-nedd ei thirfesur mor bell yn ôl â 1791 gan Thomas Dadford, ac fe’i hagorwyd rhwng Glyn-nedd a Llansawel yn 1795 gan y peiriannydd Thomas Sheasby. Costiodd y llwybr 17 cilometr £40,000 ac roedd iddo 19 o lociau, yn cynnwys Loc Tyn-yr-Heol. Adeiladwyd y tŷ sydd yma tua diwedd y 18fed ganrif fel cartref i geidwad y loc ac roedd iddo’r un swyddogaeth am dros 150 o flynyddoedd. Nawr mae wedi ei adfer yn llawn ac
mewn perchenogaeth breifat.
Croeswch y gamlas wrth Loc Tonna gyda’i Dŷ’r Loc hardd, newydd ei adfer, a throwch i’r dde i lwybr halio’r gamlas.
Dilynwch y llwybr am tua 1 cilometr; ar y chwith mae depo dosbarthu nwy anneniadol, ac ar y dde mae’r gamlas yn rhedeg islaw llethr dwfn, coediog. Yn Aberdulais, croeswch y ffordd yna ewch dan bont y rheilffordd i Fasn Camlas Aberdulais.
Y Basn hwn oedd y gyffordd rhwng Camlesi Castell-nedd (Glyn-nedd-Llansawel) a’r Tennant (Aberdulais-Port Tennant); roedd hefyd yn fan llwytho a throsglwyddo ar gyfer trafnidiaeth gludo. O ran masnach, roedd Camlas Castell-nedd yn cludo 150,000 o dunelli o lo erbyn 1820. Cododd hyn i 200,000 o dunelli yn ei hanterth, gan drosglwyddo i Gamlas Tennant yn bennaf. Mae’r Tennant yn croesi afon Nedd ar draphont dŵr (mewn bod o hyd ond mewn cyflwr gwael) i’r de o’r basn, a ddilynir gan loc.
Ewch am dro byr i gyfeiriad yr afon i weld y draphont dŵr yn cario’r gamlas dros afon Nedd a thu hwnt. Mae’r bont yn cario Rheilffordd Cwm Nedd.
Agorwyd Rheilffordd Cwm Nedd yn 1851 rhwng Aberdâr (ac yn ddiweddarach Merthyr hefyd) a Chastell-nedd; ei phrif bwrpas oedd cludo glo a mwynau o gymoedd Taf a Chynon i Ddociau Abertawe. Cafodd ei chaffael gan Reilffordd y Great Western yn 1865 a’i datblygu fel llwybr strategol o’r cymoedd canol i Bont-y-pŵl. Cychwynnodd y trenau teithwyr yn 1853 a buont yn rhedeg am 111 o flynyddoedd, nes iddynt gau yn 1964; roedd gorsaf yn Aberdulais. Parhaodd y drafnidiaeth gludo tan yn ddiweddar er bod y lein bellach wedi’i ‘rhoi i’w chadw’ oherwydd prinder gweithgareddau mwyngloddio.
Gadewch fasn y gamlas, disgynnwch at y ffordd, trowch i’r dde a chroeswch yr afon. Trowch i’r dde eto heibio i hen dŷ’r loc, dros y gamlas a than yr A465 gan ddod allan ar yr A4109. Trowch i’r dde a bydd y fynedfa i Waith Tun a Rhaeadr Aberdulais gyferbyn.
Mae i’r safle hwn orffennol diwydiannol cyfareddol. I gychwyn disodlwyd mwyndoddi copr gan wneud haearn ac yn olaf gan gynhyrchu tunplat. Pwerwyd y gweithgaredd hwn gan ddŵr o Raeadr Aberdulais, gyda chymorth olwyn ddŵr a bwerai’r tyrbinau. Mae safle Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais wedi ei adfer yn chwaethus gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n darparu dehongli ar amrywiol agweddau’r gorffennol hanesyddol (Noder: Codir tâl mynediad).
Mae’r safle bysiau ar gyfer y daith adref ar y ffordd fawr gyferbyn â’r amgueddfa.