Rural Ramble:
Llwybr y Rhaeadr a'r Rhufeiniaid Banwen
Cerddwch yn ôl troed y Rhufeiniaid – a gweld rhaeadr ysblennydd
Mae Banwen yn adnabyddus yn bennaf fel hen bentref glofaol, ond mae ei hanes cyfareddol yn ymestyn yn ôl ymhell cyn y cyfnod codi glo – dros 2000 o flynyddoedd. Mae’r pentref yn agos i gaer Rufeinig hynafol, Ricus, y gyntaf ar ôl Nidum (Castell-nedd) ar hyd ffordd ‘A470’ y cyfnod hwnnw, sef y gefnffordd rhwng Nidum a Segontium (Caernarfon). Tan yn ddiweddar, nid oedd llawer i’w weld ym Manwen i gofnodi ei gysylltiadau Rhufeinig, ond mae mosaig wedi ei greu ar ddechrau rhan ddeheuol Sarn Helen ac mae arwyddion eraill, llai amlwg, yma o’r feddiannaeth.
Yn ôl yr hanes, ganwyd nawddsant y Gwyddelod, Padrig, yma ac mae plac wedi ei osod ar faen hir wrth ochr y Ffordd Rufeinig i ddynodi hyn.
Mae’r daith yn cynnwys nodwedd naturiol unigryw yn yr ardal, Rhaeadr Henrhyd, ac ambell i arwydd i’r rheilffordd, yn y gorffennol a’r presennol, yn Y Coelbren ac Onllwyn.
Manylion y Llwybr
Gadewch y safle bysiau ym Manwen (CG 856097), a bydd y Ffordd Rufeinig o’ch blaen, gan roi syniad i chi o bwysigrwydd y llwybr. Trowch i’r dde a byddwch yn gweld terasau o dai ar y ffordd o’ch blaen a llwybr y tu hwnt yn mynd i gyfeiriad y mynydd. Ffordd Rufeinig Sarn Helen yw hon ac ar ben pellaf y stryd, fe welwch dystiolaeth ar ffurf mosaig cain yn nodi ei llwybr trwy Gymru. Ewch yn ôl i fan ychydig tu hwnt i’r gyffordd ble mae plac (ar y dde) yn cofnodi man geni honedig Padrig Sant.
Os yw hyn yn gywir, mae’n golygu bod nawddsant Iwerddon yn Gymro. Ysgrifennodd, ‘Cefais fy nghodi fel carreg o’r gors. Yr oedd gennyf fi, Padrig, bechadur a gwladwr syml, y lleiaf o’r holl ffyddloniaid a’r mwyaf atgas i lawer, y Diacon Calpurnius, mab i’r diweddar Potitus, yn Dad i mi, offeiriad yn anheddiad Bannavem Taburniae. Roedd ganddo fila fechan gerllaw ble cefais fy nghaethiwo’. Ganwyd â’r enw Maewyn Succat tua 386 OC, ac yn 16 mlwydd oed cafodd ei ddal a’i gymryd i Iwerddon ble bu’n gaethwas am 6 blynedd, yn gweithio fel bugail nes iddo ddianc. Dywedwyd wrtho mewn breuddwydion i adael Iwerddon a dychwelyd yn ddiweddarach fel cennad. Ar ôl 15 mlynedd yn Ffrainc yn dilyn astudiaethau crefyddol, yn 431 OC rhoddodd y Pab Celestine I yr enw Patricius iddo a’i anfon ar genhadaeth i Iwerddon.
Mae’r ffordd yn mynd yn syth ymlaen (yn nodweddiadol byddai ffyrdd Rhufeinig yn dilyn taflwybrau syth). Croeswch yr A4109 a mynd yn eich blaen; pan fydd tro yn y ffordd, nodwch safle’r gwersyll ymdeithio Rhufeinig (ar y dde) er nad oes olion o’r gwrthglawdd ar ôl. Ychydig ymhellach ymlaen yn Nhonyfildre mae marciwr carreg Sarn Helen hanesyddol (ar y chwith), a thu ôl iddo mae gwrthgloddiau sy’n dangos safle Caer Rufeinig Ricus. Mae Sarn Helen yn gwyro tua’r gogledd ddwyrain yma i gyfeiriad Aberhonddu ond mae ein taith ninnau yn parhau i’r Coelbren. Ar CG 857115 mae ategweithiau pont yn dangos man croesi Rheilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu. Ychydig ymhellach ymlaen wrth y gyffordd, ewch yn syth yn eich blaen, ac ar ôl 200 metr byddwch yn gweld maes parcio Rhaeadr Henrhyd.
Dilynwch y llwybr serth, troellog i’r cwm a chewch eich gwobrwyo gan olygfa syfrdanol o Raeadr Henrhyd, yr uchaf yn Ne Cymru yn 27 metr. Mae iddi harddwch prin hyd yn oed yn ystod cyfnodau sych, ond mae ar ei mwyaf mawreddog pan fydd yn llifeirio. Ewch yn ôl i’r maes parcio a’r gyffordd a throwch i’r dde i’r Coelbren; ar ôl 0.5 cilometr, trowch i’r chwith i Heol yr Orsaf ble mae gorsaf Cyffordd Y Coelbren.
Hon oedd cyffordd Rheilffordd y Midland o Abertawe a rheilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu. Caeodd i deithwyr ym mis Hydref 1962 ac i drafnidiaeth gludo rhai blynyddoedd yn ddiweddarach. Am gyfnod byr, yn 1963, daeth yn rhan o ‘Dde Affrica’ yn ystod ffilmio ‘The Young Winston’.
Ewch yn ôl ar hyd Heol yr Orsaf, i’r chwith i Heol yr Eglwys ac i’r chwith eto i Heol Onllwyn. Ar gyffordd yr A4221, croeswch, trowch i’r dde yna i’r chwith a pharhewch am 1 cilometr i’r gyffordd gyda’r A4109. Yna trowch i’r chwith a cherdded drwy Onllwyn i’r derfynfa fysiau.
Wrth i chi groesi’r rheilffordd weithredol, byddwch yn gweld seidins (ar y chwith) sy’n gwasanaethu Golchfa Onllwyn ble mae glo crai yn cael ei baratoi a’i ‘olchi’ i gael gwared â’r amhuredd cyn iddo gael ei gludo i’r defnyddiwr. Mae’n un o’r lleoedd prin yng Nghymru ble gallwch weld trenau glo o hyd, a’r rhain gynt yn hollbresennol yma!
Gallwch ddychwelyd ar y bws i Fanwen.
Pellterau metrig a roddir ym mhob man
Mae CG yn cyfeirio at gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans