Anturiaethau Teithio ym Mae Abertawe

MAE BAE ABERTAWE YN FECCA I GERDDWYR BRWD

Mae rhwydwaith ardderchog o deithiau cerdded yn ardal Bae Abertawe yn cynnwys y rhannau lleol o Lwybr Arfordir Cymru o gwmpas Gŵyr a Phort Talbot. Mae cyfleoedd cerdded diddorol yn y cymoedd ger Port Talbot, Castell-nedd ac Abertawe: gweler www.traveladventures.wales am syniadau.

DETHOLIAD O’R DEWISIADAU

CERDDED YM MRO GŴYR

LLWYBR ARFORDIR GŴYR
Rydym yn darparu gwybodaeth fanwl am saith rhan o’r llwybr arfordir eiconig hwn ynghyd â’r ffordd orau o’u cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

  • Caswell Bay walk banner

    BAE CASWELL – YSTUMLLWYNARTH

    Mae'r daith hon yn gyfle i fwynhau'r golygfeydd godidog o glogwyni a thraethau ar hyd Baeau Langland a Breichled, Trwyn y Mwmbwls a thref glan môr Fictoraidd Y Mwmbwls.
    Mwy o fanylion
  • BAE CASWELL – CLOGWYNI PENNARD

    Mae'r darn hwn o'r Llwybr Arfordir yn cynnwys un o'r rhannau mwyaf rhyfeddol o arfordir Gŵyr, ‘Yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’. Mae'n dilyn y llwybr troellog ar hyd pen y clogwyni o Fae Caswell i Fae Pwlldu cyn rowndio Pen Pwlldu gyda'i olygfeydd arfordirol anhygoel.
    Mwy o fanylion
  • CLOGWYNI PENNARD – BAE OXWICH

    Mae'r rhan hon o'r Llwybr Arfordir, sy'n croesi Twyni Pennard i Fae’r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich, yn hollol wahanol ac unigryw ei chymeriad wrth iddi groesi coetir, twyni a thraethau.
    Mwy o fanylion
  • BAE OXWICH – PORTH EINON

    Dyma ran ddramatig arall o'r Llwybr Arfordir, y tro hwn yn dilyn y penrhyn mawr o gwmpas Trwyn Oxwich.
    Mwy o fanylion
  • PORTH EINON – RHOSILI

    Mae'r rhan hon o'r Llwybr Arfordir yn un o'r llwybrau cerdded harddaf a mwyaf enwog ym Mhenrhyn Gŵyr.
    Mwy o fanylion
  • LLANMADOG – LLANRHIDIAN

    Taith gerdded ddifyr ar hyd yr arfordir a Morfeydd Heli Llanrhidian.
    Mwy o fanylion
  • LLANMADOG – RHOSILI

    Taith gerdded heriol o gwmpas clogwyni gogledd Gŵyr ac ar hyd traeth ysblennydd Rhosili.
    Mwy o fanylion

Ap This is Gower

Mae nifer o deithiau cerdded eraill ym mhob rhan o Benrhyn Gŵyr ac fe gewch wybodaeth am lawer ohonynt drwy ddefnyddio’r Ap This is Gower (iOS Users (Apple) / Android users)

Wales Coast Path App

Yr ap swyddogol ar gyfer Arfordir Cymru / Llwybr Arfordir Cymru – iOS Users (Apple) / Android users

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig cyfres o deithiau cerdded diddorol ar y Penrhyn, gwiriwch nhw isod.

Ewch i'r wefan

Llwybr Gŵyr

Crëwyd y llwybr troed pellter hir, Llwybr Gŵyr, gan Gymdeithas Gŵyr mewn cydweithrediad â Cherddwyr Abertawe. Mae’n mynd o Rosili ar ben gorllewinol Gŵyr i Benlle’r Castell yn hen Arglwyddiaeth Gŵyr i’r gogledd o Abertawe

Ewch i'r wefan

CERDDED YN Y DDINAS

Mae’r Llwybr Arfordir (NCN4) yn cynnig cyfleoedd cerdded gwych ar hyd llain arfordirol Bae Abertawe i’r Mwmbwls ac o Blackpill i Dre-gŵyr.

Cewch lwybrau byrrach mewn rhannau eraill o’r ddinas:

Uplands a Pharc Cwmdoncyn

Llwybr Afon Tawe: Y Marina i Stadiwm Liberty

TAITH GERDDED DDI-DRAFFIG I'R MWMBWLS

Mae lonydd ar wahân i gerddwyr a beicwyr ar lwybr yr arfordir yr holl ffordd o Abertawe i’r Mwmbwls. Mae’r amwynder poblogaidd hwn yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru ac mae’n llwybr dwyffordd nes i chi gyrraedd Pier y Mwmbwls. Mae’r llwybr cerdded yn parhau o gwmpas yr arfordir trwy Faeau Breichled a Langland i Fae Caswell a Phenrhyn Gŵyr.

CERDDED YNG NGOGLEDD ABERTAWE A MAWR

Crëwyd y llwybr troed pellter hir, Llwybr Gŵyr, gan Gymdeithas Gŵyr mewn cydweithrediad â Cherddwyr Abertawe. Mae’n rhedeg o Rosili ar ben gorllewinol Gŵyr i Benlle’r Castell yn hen Arglwyddiaeth Gŵyr i’r gogledd o Abertawe.

Mae Llwybr Lein Calon Cymru yn ymestyn dros 19.5km rhwng Pontarddulais a Llanelli drwy Gasllwchwr ac mae’n rhan o lwybr 200km datblygol sy’n rhedeg wrth ochr rheilffordd Calon Cymru.

Mae teithiau cerdded diddorol eraill yn ardal Mawr sy’n arwain i leoedd hardd ac anghysbell. Lawrlwythwch y PDFs isod:

Taith Gerdded Craig Fawr o Bontarddulais
Taith Gerdded Cwm Clydach o Graig Cefn Parc
Taith Gerdded Wledig Pontlliw i Graig Cefn Parc drwy Felindre

Cerdded yng NGHASTELL-NEDD, PORT TALBOT A'R CYMOEDD

Mae llawer o gyfleoedd cerdded da yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae llwybr mewndirol Llwybr Arfordir Cymru rhwng Margam a Llansawel yn heriol ond yn syfrdanol gyda golygfeydd godidog dros Barc Margam, y Gwaith Dur a Bae Abertawe.

Ewch i wefan Travel Adventures Wales am wybodaeth gyffredinol a theithiau cerdded treftadaeth yn yr ardaloedd gwledig: www.traveladventures.wales

Gall Cerddwyr Castell-nedd Port Talbot roi ragor o wybodaeth a rhaglen o deithiau cerdded wedi’u trefnu.

  • Cwm Dyffryn Trail

    Roedd lein Cwmni Rheilffordd a Dociau Port Talbot yn cysylltu glofeydd Cwm Garw a Chwm Llynfi â dociau Port Talbot ac mae'r daith hon ar hyd rhan harddaf y llwybr hwnnw, drwy Gwm coediog Dyffryn.
    Mwy o fanylion
  • GLYNCORRWG I’R CYMER

    Cwm Corrwg a'i lofeydd niferus oedd y rheswm gwreiddiol dros sefydlu Rheilffordd Fwynau De Cymru (SWMR) i gysylltu'r cwm â dociau Llansawel ar hyd llwybr troellog drwy’r Cymer, Tonmawr a Phwynt Crythan.
    Mwy o fanylion
  • PONT-RHYD-Y-FEN I’R CYMER

    Mae'r llwybr hwn yn dilyn hen reilffordd y Rhondda a Bae Abertawe (R&SB) ac mae'r llwybr yn wastad yn bennaf ar hyd y cwm mawreddog hwn. Dros y degawdau diwethaf mae tirweddau Cwm Afan, oedd gynt yn dra diwydiannol, wedi cael eu gweddnewid yn ardal sydd wedi ei hadennill gan goedwigaeth a natur, gan ddod yn baradwys i gerddwyr, beicwyr a gwylwyr adar.
    Mwy o fanylion
  • LLWYBR RICHARD BURTON

    Agorodd Llwybr Richard Burton yn 2011 i goffáu'r actor a'r seren ffilmiau mawr o Gymru (1925-1984). Ganwyd Richard yn fab i löwr ym Mhont-rhyd-y-fen, a chafodd ei fagu yn Nhaibach, Port Talbot. Cymerodd ran mewn cynyrchiadau drama gyda'r YMCA lleol yna symudodd i Lundain i ddod yn actor Shakespearaidd ac wedyn yn seren ffilmiau Hollywood byd-enwog.
    Mwy o fanylion
  • LLWYBR TREFTADAETH ABERDULAIS

    Roedd Aberdulais yn un o'r mannau poeth diwydiannol niferus ar hyd y canrifoedd ac yn gyfnewidfa gludiant bwysig. Mae'r llwybr yn cysylltu Tonna â Chamlesi Tennant a Chastell-nedd, safle'r Gwaith Tun a'r Rhaeadr.
    Mwy o fanylion
  • LLWYBR CAMLAS CASTELL-NEDD

    Y Basn hwn oedd y gyffordd rhwng Camlesi Castell-nedd (Glyn-nedd-Llansawel) a'r Tennant (Aberdulais-Port Tennant); roedd hefyd yn fan llwytho a throsglwyddo ar gyfer trafnidiaeth gludo. O ran masnach, roedd Camlas Castell-nedd yn cludo 150,000 o dunelli o lo erbyn 1820. Cododd hyn i 200,000 o dunelli yn ei hanterth, gan drosglwyddo i Gamlas Tennant yn bennaf.
    Mwy o fanylion
  • LLWYBR Y RHAEADR A’R RHUFEINIAID BANWEN

    Mae Banwen yn adnabyddus yn bennaf fel hen bentref glofaol, ond mae ei hanes cyfareddol yn ymestyn yn ôl ymhell cyn y cyfnod codi glo – dros 2000 o flynyddoedd. Mae'r pentref yn agos i gaer Rufeinig hynafol, Ricus, y gyntaf ar ôl Nidum (Castell-nedd) ar hyd ffordd ‘A470’ y cyfnod hwnnw, sef y gefnffordd rhwng Nidum a Segontium (Caernarfon).
    Mwy o fanylion
  • CILYBEBYLL I BONTARDAWE

    Sefydlwyd ystad Cilybebyll yn y 15fed ganrif ac ar ôl iddi gael ei datblygu gan amrywiol deuluoedd, erbyn 1838 cafodd ei chofnodi fel y ddeiliadaeth dir fwyaf yn yr ardal. Cafodd y prif dŷ, Plas Cilybebyll, ei ailddatblygu yn 1840 gan Henry Leach, gan greu ffasâd Fictoraidd yn wynebu tua'r de ar yr eiddo.
    Mwy o fanylion
  • CLYDACH I BONTARDAWE

    Mae hanes cludiant diddorol yn yr ardal o gwmpas Pontardawe ac yn ffodus mae Camlas Abertawe, sy'n ffurf gynnar ar seilwaith swmpgludo, mewn bod o hyd i raddau helaeth. Mae'r sefyllfa'n llai ffodus o ran y rheilffyrdd gan fod holl olion Rheilffordd y Midland ym Mhontardawe wedi cael eu dileu gan ddatblygiad ffyrdd ac archfarchnad.
    Mwy o fanylion
  • PONTARDAWE I YSTALYFERA

    Mae hanes cludiant diddorol yn yr ardal o gwmpas Pontardawe ac yn ffodus mae Camlas Abertawe, sy'n ffurf gynnar ar seilwaith swmpgludo, yn parhau i fodoli i raddau helaeth. Yn anffodus, o ran y rheilffyrdd, mae holl olion Rheilffordd y Midland ym Mhontardawe wedi cael eu dileu gan ddatblygiad ffyrdd ac archfarchnad.
    Mwy o fanylion