DOES DIM ANGEN CAR ARNOCH I FWYNHAU ABERTAWE!
Mwynhewch yr amwynderau a geir mewn dinas fawr, gyda’r bonws o arfordir anhygoel a harddwch naturiol eithriadol Gŵyr a gogledd Abertawe yn gefnwlad iddi……
……ac mae’n hawdd mynd o gwmpas ar y bws, ar feic ac ar droed
Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
MYND O GWMPAS AR Y BWS NEU’R TRÊN
Mae rhwydwaith cynhwysfawr o wasanaethau trenau a bysiau o gwmpas Bae Abertawe, a llawer o’r rhain yn rhedeg saith diwrnod yr wythnos. Maent yn gwasanaethu’r ddinas gyfan, Bro Gŵyr*, rhannau o ogledd Abertawe wledig a Chastell-nedd, Port Talbot a’r Cymoedd
*Ar y Sul a Gwyliau Banc ar ddiwedd y gwanwyn ac yn yr haf yn unig
MYND O GWMPAS AR FEIC
Mae rhwydwaith o lwybrau beicio yn Abertawe – a llawer o’r rhain oddi ar y ffordd, a rhai eraill yn ffyrdd ‘cyfeillgar i feiciau’ cynghorol. Mae nifer o lwybrau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) yn Abertawe a’r cwmpasoedd.
Gallwch deithio’n ddi-draffig ar hyd y prif lwybrau hamdden yr holl ffordd o ganol y ddinas i’r Mwmbwls ac i’r gogledd i Ddynfant a Thre-gŵyr.
Cewch fwy o wybodaeth ar y map beicio
Mwy o FanylionCERDDED YN Y DDINAS
Mae’r Llwybr Arfordir (NCN4) yn cynnig cyfleoedd cerdded gwych ar hyd llain arfordirol Bae Abertawe i’r Mwmbwls ac o Blackpill i Dre-gŵyr. Cewch lwybrau byrrach mewn rhannau eraill o’r ddinas:
CYFLWYNIAD I RAI O’R PETHAU GWYCH MAE
DINAS ABERTAWE YN EU CYNNIG
Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
GLANNAU GODIDOG ABERTAWE
Mae Bae Abertawe wedi ei gymharu â Bae Naples fel un o’r harddaf yn Ewrop. Mae glan y môr yn agos i’r ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd.
-
GLANNAU ABERTAWE
-
2, 2A, 2B, 2C, 3A Abertawe i'r Mwmbwls; 14 Abertawe i Pennard
Mae'r llwybr arfordir yn caniatáu i chi fwynhau harddwch y glannau’n hamddenol mewn amgylchedd di-draffig, naill ai ar feic neu ar droed. Neu daliwch fws i'r Mwmbwls a mwynhau'r panorama hwn drwy'r ffenestri mawrion o gysur eich sedd. -
-
YR ARDAL FOROL
-
Heol Trawler (cyfagos), 7 (nid ar ar y Sul) Mae'n daith fer (400m) ar droed o Orsaf Fysiau Abertawe
-
Parcio i feiciau
Mae gan Abertawe hanes morwrol pwysig ac yn ei hanterth, roedd ganddi bedwar doc gyda llongau'n hwylio ac yn masnachu ledled y byd. Un doc sy’n masnachu bellach ac erbyn heddiw mae glan yr afon a Doc y De yn farina deniadol. Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn atyniad pwysig a ysbrydolwyd gan y dreftadaeth hon. Mae'r Ardal Forol yn ardal fechan rhwng y Marina a’r Tawe sy'n cynnwys rhai o’r strydoedd Fictoraidd a osgodd y bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Adferwyd rhai o’r adeiladau morwrol ar ddwy lan y Tawe hefyd. Mae'r Marina wedi cael ei ddatblygu ers y 1980au a bellach mae'n rhan ddarluniadwy o Abertawe a saif yng nghysgod y Tŵr Meridian newydd. -
PARCIAU A GERDDI ABERTAWE
Mewn dinas sy’n meddu ar gyfoeth o fannau gwyrdd, dyma rai o’r goreuon.
-
PARC SINGLETON
-
Parc Singleton, Heol y Mwmbwls (50m) 2, 3, 4, 8, 14
Mae hwn yn ehangder anferth, anhygoel o wyrddni rhwng yr arfordir, y brifysgol a maestref Sgeti. Mae'n wych ar gyfer cerdded, beicio ac ymlacio'n gyffredinol, ac mae golygfeydd godidog o'r môr. -
-
Y GERDDI BOTANEG YM MHARC SINGLETON
-
Parc Singleton, Heol Gŵyr (50m) 20, 21, 22
Mae'r Gerddi hyn yn gartref i un o gasgliadau planhigion gorau Cymru, gyda'u borderi blodau ysblennydd a'r tai gwydr. Saif y gerddi yng nghanol amgylchoedd llonydd Parc Singleton, ac mae'n lle hamddenol i grwydro neu i gael ysbrydoliaeth. -
-
PARC BRYNMILL
-
Lôn Glanbrydan, Uplands (100m) 19 (nid ar y Sul)
Mae'r parc darluniadol hwn yn agos i ganol prysur dinas Abertawe ond eto mae'n hafan o lonyddwch. -
-
PARC CWMDONCYN
-
Sgwâr Uplands (200m, serth) 20, 21, 22
-
Parc Cwmdoncyn (cyfagos) 5 (anaml – nid ar y Sul)
Anfarwolwyd y parc hwn gan Dylan Thomas a fagwyd yn agos iddo – chwaraeai yma'n blentyn, ac ysbrydolwyd ei farddoniaeth yno'n ddiweddarach. -
-
PARC MENTER ABERTAWE
-
Ffordd Ffenics (200m), 34 (nid ar y Sul)
Os ydych yn meddwl eich bod yng nghanol y wlad – meddyliwch eto! Yn llai na 50 mlynedd yn ôl, roedd hwn yn safle i waith mwyndoddi sinc ac mae'n rhan o brosiect adsefydlu Cwm Tawe Isaf o'r 1960au a'r 70au. Mae bellach yn lleoliad i gymysgedd o allfeydd adwerthu, cyfanwerthu a datblygiadau diwydiannol ysgafn. -
HANES A THREFTADAETH ABERTAWE
Roedd Abertawe’n un o brif ganolfannau diwydiannol y byd yn y 18fed/19eg ganrif ac roedd ei dociau’n brysur yn mewnforio deunyddiau crai ac yn allforio cynhyrchion gorffenedig. Roedd llawer o’r diwydiant yn llygrol dros ben ond erbyn y 1960au, roedd y tir anial a grëwyd wedi ei lanhau’n drylwyr. O ganlyniad nid oes llawer o dystiolaeth weledol bellach o’i gorffennol diwydiannol.
-
AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y GLANNAU
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (200m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae'r amgueddfa anhygoel hon yn olrhain treftadaeth forwrol Cymru a'i threftadaeth ddiwydiannol gysylltiedig – trwy ddulliau rhyngweithiol yn bennaf, ynghyd ag ar ffurf arddangosiadau traddodiadol.Ewch i'r wefan -
-
AMGUEDDFA ABERTAWE
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (200m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae Amgueddfa Abertawe yn cynnwys arteffactau niferus o Abertawe ddoe a heddiw, ac yn canolbwyntio hefyd ar ddyfodol y ddinas a'i phobl. Mae iddi nifer o leoliadau – y prif adeilad ar Ffordd Ystumllwynarth, y sied dramiau a'r arddangosion nofiol yn y Marina, a storfeydd yr amgueddfa yng Nglandŵr.Ewch i'r wefan -
-
CWCH CYMUNEDOL ABERTAWE
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (200m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Cyfle i weld hanes morwrol a diwydiannol Abertawe ar y daith gyffrous hon ar gwch y Copper Jack o Farina Abertawe i fyny'r Tawe cyn belled â Stadiwm Liberty a nôl.Ewch i'r wefan -
-
YSBRYD DYLAN THOMAS YN YR UPLANDS
-
Sgwâr Uplands (200m serth), 20, 21, 22
Anfarwolwyd maestref yr Uplands yn Abertawe gan Dylan Thomas am iddo gael ei fagu a threulio'r rhan fwyaf o'i flynyddoedd cynnar yno. Ynghyd â'i fan geni,, sydd wedi ei adfer yn arddull y cyfnod, mae llawer o gyrchfeydd eraill y bardd yn yr Uplands yn dal i fodoli – yr enwocaf yw Parc Cwmdoncyn.Ewch i'r wefan -
-
CANOLFAN DYLAN THOMAS
-
Sgwâr Somerset (cyfagos), 44 (anaml, nid ar y Sul)
-
Mae'r holl wasanaethau bysiau Dwyrain Abertawe yn stopio ar Barêd y Cei (100m ar droed)
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae'r Ganolfan yn gartref i arddangosfa barhaol o’r enw ‘Love the Words’ a agorwyd ar ben-blwydd Dylan yn 100 oed. Mae arddangosiadau rhyngweithiol, man dysgu, a man arddangos dros dro yn dweud y stori am waith a bywyd un o ysgrifenwyr mwyaf blaenllaw'r 20fed ganrif.Ewch i'r wefan -
-
Gwaith Copr Hafod
-
Heol Castell-nedd, Hafod (100m), 4, 34
Sefydlwyd Gwaith Copr Hafod gan John Vivian yn 1810 ac roedd yn un o'r pum prif waith copr yng Nghwm Tawe Isaf. Daeth y mwyn copr yma o Gernyw a Gogledd Cymru i gychwyn, ac yn ddiweddarach o Chile a Chiwba. At ei gilydd, roedd 90% o fwyndoddi copr y wlad yn digwydd o fewn radiws o 20 milltir Abertawe. Dyna sut cafodd ei henw, 'Copperopolis'. (Llun © Stephen Miles) -
-
EGLWYS BLWYF Y SANTES FAIR
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (150m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Eglwys Blwyf y Santes Fair yw'r brif eglwys Anglicanaidd yn Abertawe, ac mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1896. Yn 1941 cafodd ei difrodi'n ddifrifol gan y bomio a chafodd ei hailadeiladu yn y 1950au. Mae'n edrych dros sgwâr dymunol yng nghanol y ddinas. -
-
CASTELL ABERTAWE
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (150m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae olion y Castell yn rhan fechan o'r adeilad gwreiddiol ar ei safle strategol uwchlaw hen gwrs yr afon. Mae ei olion yn dyddio o ddiwedd y 13eg a dechrau'r 14eg ganrif. Saif ger Sgwâr y Castell yn agos i eglwys y Santes Fair. -
-
BAE ABERTAWE YN Y 1940AU
-
Cilgant Elba (100m), 84
-
Opsiwn arall – mae bysiau amlach yn aros gyferbyn â Champws y Bae (400m ar droed)
-
Parcio i feiciau ar gael
Mae'r profiad hwn o'r Ail Ryfel Byd, Bae Abertawe yn y 1940au, yn atyniad anhygoel. Mae'n dangos golygfa stryd dan do go iawn, lloches cyrchoedd awyr gyda sŵn bomiau'n disgyn, siop a ddifrodwyd gan fom, parlwr ffrynt o adeg y rhyfel, a replica o dafarn y Three Lamps.Ewch i'r wefan -
ABERTAWE – DINAS O HAMDDEN, DIWYLLIANT A CHWARAEON
-
YR LC (CANOLFAN HAMDDEN ABERTAWE)
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (150m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Yr LC yw Parc Dŵr dan do mwyaf Cymru, gyda champfa o'r radd flaenaf, peiriant syrffio dan do chwedlonol (y Boardrider), man chwarae rhyngweithiol, wal ddringo dan do, a neuadd chwaraeon ac arddangos amlbwrpas.Ewch i'r wefan -
-
Dynamic Rock
-
Clydach Heol Hebron (cyfagos), X6
Profiadau dringo dan do ac awyr agored i bobl o bob oedran a gallu, gyda hyfforddiant arbenigol.Ewch i'r wefan -
-
PWLL NOFIO CENEDLAETHOL CYMRU
-
Ysbyty Singleton (100m), 3, 4, 8, 10
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae'r pwll nofio dan do 50 metr hwn yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau dŵr ac amlchwaraeon, a chyfleusterau iechyd a ffitrwydd corfforol i bobl o bob oedran a gallu.Ewch i'r wefan -
-
THEATR Y GRAND ABERTAWE
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (50m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Theatr y Grand Abertawe yw'r ganolfan ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yn y ddinas gyda theatr, bale, pantomeim, perfformwyr enwog a llawer mwy.Ewch i'r wefan -
-
THEATR TALIESIN
-
Campws Singleton (50m), 2A, 3A, 4, 4A, 8, 10
-
Parcio i feiciau gerllaw
Theatr fyw, sinema a pherfformiadau ffrydio byw mewn lleoliad anffurfiol, dymunol ar Gampws Singleton y Brifysgol.Ewch i'r wefan -
-
Y NEUADD FAWR, CAMPWS Y BAE
-
Campws y Bae (50m), 8, 10, 58
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae'r Neuadd Fawr yn gysylltiedig â'r Taliesin ac mae'n llwyfannu digwyddiadau cerddorol a llenyddol pwysig.Ewch i'r wefan -
-
NEUADD Y BRANGWYN
-
Neuadd y Ddinas (50m), 2, 3, 8, 14, 19
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae Neuadd y Brangwyn yn rhan o gyfadeilad Neuadd y Ddinas a hwn yw'r prif leoliad yn Abertawe am gyngherddau a digwyddiadau dan do.Ewch i'r wefan -
-
ORIEL GLYNN VIVIAN
-
Stryd Orchard (50m), neu Orsaf y Stryd Fawr (150m), 4, 4A
Mae'r Glynn Vivian yn un o orielau celf blaenllaw Cymru ac mae'n gartref i gasgliadau enwog o waith celf, cerflunwaith a phensaernïaeth. Mae'n cynnal llawer o ddigwyddiadau cysylltiedig â'r celfyddydau gweledol.Ewch i'r wefan -
-
STADIWM LIBERTY
-
Stadiwm (100m), 4, 4A, 14, 34
Mae stadiwm chwaraeon amlbwrpas eiconig Abertawe yn gartref i dîm pêl-droed Dinas Abertawe a thîm rygbi rhanbarthol Y Gweilch. Mae hefyd yn cynnal digwyddiadau awyr agored a dan do.Ewch i'r wefan -
-
MAES CHWARAEON SAN HELEN
-
San Helen (cyfagos), 2, 3, 4, 8, 14
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae'r lleoliad hwn yn gartref i Glwb Criced Sir Forgannwg a Chlwb Rygbi Pêl-droed Abertawe, ac mae'n parhau i gynnal llawer o ddigwyddiadau. -
-
Skidz Karting
-
Fforestfach Kingsway (400m), X13
Dyma'r unig drac cartio dan do yn Abertawe ac mae yma gartiau i bobl o bob oedran a safon, ynghyd â thraciau i herio gyrwyr o bob math. Er bod hwn yn sefydliad 'aelodau yn unig', mae’r aelodaeth ‘sylfaenol’ a'r ‘clwb gyrwyr’ yn agored i bawb.Ewch i'r wefan -
SIOPA A BWYTA ALLAN
-
MARCHNAD ABERTAWE
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (50m), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru yn cynnig un o'r profiadau siopa mwyaf difyr yn Abertawe.Ewch i'r wefan -
-
Siopa yn y Cwadrant
-
Gorsaf Fysiau Abertawe (cyfagos), yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Lleolir Canolfan Siopa'r Quadrant yng nghanol Abertawe ac mae'n lletya llu o adwerthwyr blaenllaw dan yr unto.Ewch i'r wefan -
-
SIOPA YN Y MORFA, GLANDŴR
-
Stadiwm (250m), 4, 4A,
-
Morfa (50m), 34
Mae Parc Siopa'r Morfa yn un o brif leoliadau adwerthu de orllewin Cymru, ac mae’n llai na dwy filltir o Ganol Dinas Abertawe.Ewch i'r wefan -
-
SIOPA YM MHARC TAWE, I'R DWYRAIN O GANOL Y DDINAS
-
Parêd y Cei (50m), 6, 8, 44 bysiau eraill tua'r dwyrain
Datblygwyd y parc adwerthu a hamdden hwn ar gyrion Abertawe i gyfuno siopau modern a chynnig hamdden ac arlwyo cryf ar yr un safle.Ewch i'r wefan -
-
SIOPA YN FFORESTFACH, I'R GOGLEDD O GANOL Y DDINAS
-
Parc Adwerthu Fforestfach (50m), 110, 111
Os ydych yn chwilio am frandiau mawr, siopau rhagorol a therapi siopa gwych, fe gewch y cyfan yma ym mhrif leoliad siopa awyr agored Abertawe.Ewch i'r wefan -
BWYTAI A THAFARNAU
-
CANOL Y DDINAS
-
Gorsaf Fysiau'r Ddinas, yr holl wasanaethau
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae llawer o safleoedd gwerthu bwyd a diod yn ardal Stryd y Gwynt, ac mae rhai eraill wedi'u gwasgaru o gwmpas canol y ddinas a'r Marina. -
-
Uplands
-
Sgwâr Uplands, 10, 19, 20, 21, 22
Mae’r barrau a'r bwytai bach niferus yn yr ardal hon yn darparu'n helaeth ar gyfer y farchnad fyfyrwyr. -
-
Y MWMBWLS
-
Sgwâr Ystumllwynarth, 2, 2A, 2B, 2C, 3A
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae llu o leoedd bwyta o bob math yn Y Mwmbwls – yn cynnig bwydydd at bob dant. Mae dau dafarn bragdy crefft yn y pentref hefyd. -