Gwybodaeth am deithio: Dod i Fae Abertawe

MAE BAE ABERTAWE (ABERTAWE, CASTELL-NEDD A PHORT TALBOT) YN NE ORLLEWIN CYMRU YN HAWDD EI GYRRAEDD AR Y TRÊN NEU MEWN COETS.

Mae cysylltiadau ardderchog rhwng ein tair prif ganolfan a gweddill y DU a thramor (trwy gysylltiadau Trên/Awyr neu Goets/Awyr) ac mae llwybrau i feicwyr yma sy’n gymharol ddi-draffig. Dyma rai o’n cysylltiadau da:

DOD I FAE ABERTAWE AR Y TRÊN

DOD AR Y TRÊN O WEDDILL Y DEYRNAS UNEDIG A’R PRIF FEYSYDD AWYR

Mae gwasanaethau trenau cyflym ac aml yn cysylltu pob rhan o’r Deyrnas Unedig ag Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, naill ai’n uniongyrchol neu gydag un newid hawdd. Mae trenau uniongyrchol yn rhedeg o Lundain, Bryste, Caerdydd a Manceinion ac mae cysylltiadau da o rannau eraill o Loegr drwy Barcffordd Bryste neu Gaerdydd. Mae cysylltiadau trên/awyr cyfleus o feysydd awyr Gatwick, Heathrow, Bryste a Chaerdydd.

Am amserau, prisiau a gwybodaeth gyffredinol am drenau, ewch i: www.nationalrail.co.uk 08457 48 49 50

CYRRAEDD ABERTAWE

Mae Gorsaf Drenau Abertawe  yn agos i ganol y ddinas, gydag amrywiaeth eang o gyfleusterau, gwybodaeth a chaffi i deithwyr.
Hollol Hygyrch
Mae digon o dacsis ar gael y tu allan i’r orsaf

Mae bysiau’n gadael o’r safleoedd ar y ffordd fawr y tu allan i’r orsaf:

Yn uniongyrchol i orsaf fysiau canol y ddinas (cysylltiadau i’r Mwmbwls, Gŵyr a gorllewin y ddinas)

Yn uniongyrchol i Stadiwm Liberty, gogledd y ddinas a Chwm Tawe

Yn uniongyrchol i Gampysau’r Bae a Singleton Prifysgol Abertawe

Gallwch weld eich amserau bysiau nesaf yn Traveline Cymru.

CYRRAEDD CASTELL-NEDD

Mae Gorsaf Drenau Castell-nedd yng nghanol y dref, gyda chaffi, gwybodaeth ac amrywiaeth o gyfleusterau i deithwyr.

Hollol Hygyrch
Mae digon o dacsis ar gael y tu allan i’r orsaf

Mae’r rhan fwyaf o’r bysiau’n gadael o’r orsaf fysiau, 250m ar droed o’r orsaf drenau:
Yn uniongyrchol i Bontardawe, Cymoedd Dulais a Nedd a maestrefi Castell-nedd
Mae’r bysiau T6 yn gadael o’r tu allan i’r orsaf drenau: yn uniongyrchol i Raeadr Aberdulais, Canolfan Ogofeydd Cenedlaethol Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gallwch weld eich amserau bysiau nesaf yn Traveline Cymru.

CYRRAEDD PORT TALBOT

Mae Gorsaf Drenau Port Talbot yn agos i ganol y dref, gydag amrywiaeth o gyfleusterau a gwybodaeth i deithwyr.
Hollol Hygyrch
Mae digon o dacsis ar gael y tu allan i’r orsaf

Mae’r bysiau’n gadael o’r hyb trafnidiaeth gyferbyn â’r orsaf drenau:

Yn uniongyrchol i Barc Gwledig Margam a Maesteg ac i’r orsaf fysiau (ar gyfer cysylltiadau i Gwm Afan a Glannau Aberafan)
Yn uniongyrchol i Gampws y Bae Prifysgol Abertawe

Gallwch weld eich amserau bysiau nesaf yn Traveline Cymru.

I GAEL GWYBOD SUT I FYND O GWMPAS YR ARDAL AR Y BWS, AR FEIC NEU AR DROED, EWCH I MYND O GWMPAS

DOD I FAE ABERTAWE MEWN COETS

DOD MEWN COETS O WEDDILL Y DEYRNAS UNEDIG A’R PRIF FEYSYDD AWYR

Mae gwasanaethau coetsis aml yn cysylltu pob rhan o’r Deyrnas Unedig ag Abertawe a Phort Talbot, naill ai’n uniongyrchol neu gydag un newid hawdd. Mae National Express yn rhedeg yn uniongyrchol i Abertawe a Phort Talbot o Lundain, Meysydd Awyr Gatwick a Heathrow, Canolbarth Lloegr a Bryste. Mae’r Megabus yn rhedeg yn uniongyrchol i Abertawe o Lundain, Bryste a Birmingham.

CYRRAEDD ABERTAWE

Mae Gorsaf Goetsis Abertawe yng nghanol y ddinas, wrth ochr yr orsaf fysiau, gyda chaffi, siopau, gwybodaeth ac ystod lawn o gyfleusterau i deithwyr.
Mae digon o dacsis ar gael y tu allan i’r orsaf

Mae’r bysiau’n gadael o’r orsaf fysiau gyfagos:
Yn uniongyrchol i’r Mwmbwls, Gŵyr a gorllewin y ddinas
Yn uniongyrchol i Stadiwm Liberty, dwyrain a gogledd y ddinas a Chwm Tawe
Yn uniongyrchol i Gampysau’r Bae a Singleton y Brifysgol ac i Gampysau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Gallwch weld eich amserau bysiau nesaf yn Traveline Cymru.

CYRRAEDD CASTELL-NEDD

Mae un goets y dydd yn gwasanaethu Castell-nedd ac mae hon yn aros gerllaw’r Orsaf Drenau. Mae gwasanaethau bysiau cysylltiol yn gadael o’r orsaf fysiau, 250m ar droed.

CYRRAEDD PORT TALBOT

Mae Hyb Bysiau Port Talbot yn agos i ganol y dref.
Hollol Hygyrch

Mae digon o dacsis ar gael y tu allan i’r orsaf

Mae’r bysiau’n gadael yr hyb trafnidiaeth wrth ochr y safle coetsis:
Yn uniongyrchol i Barc Gwledig Margam a Maesteg ac i’r orsaf fysiau (cysylltiadau i Gwm Afan a Glannau Aberafan)

Gallwch weld eich amserau bysiau nesaf yn Traveline Cymru.

I GAEL GWYBOD SUT I FYND O GWMPAS YR ARDAL AR Y BWS, AR FEIC NEU AR DROED, EWCH I MYND O GWMPAS

DOD I FAE ABERTAWE AR FEIC

Y RHWYDWAITH BEICIO CENEDLAETHOL (NCN)

Mae cysylltiadau da rhwng Bae Abertawe a rhannau eraill o Gymru a thu hwnt ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Mae’r Llwybr Celtaidd NCN4 o Gas-gwent i Abertawe yn ddi-draffig yn bennaf ond gyda rhannau ar y ffordd o gwmpas Casnewydd.

Mae Llwybr y Cymoedd Lefel Uchel, yr NCN46/47, o’r Fenni yn ddi-draffig i raddau helaeth.

Mae’r NCN47 o Borthladd Fferi Abergwaun ar y ffordd yn bennaf.

Mae’r Llwybr Celtaidd NCN4 o Borthladd Fferi Penfro ar y ffordd yn bennaf gyda mynediad di-draffig i mewn i Abertawe.

Mae Lon Las Cymru NCN8 o Ogledd a Chanolbarth Cymru yn cysylltu â’r NCN4 ym Mhontypridd.

BEICIAU AR DRENAU

Mae Rheilffordd y Great Western yn derbyn beiciau ar drenau Intercity Express o Lundain, Reading a Bryste ac mae’n rhaid bwcio. Mae’r mannau storio beiciau ar drenau’n gyfyngedig, a hefyd yr amserau pan na ellir eu cludo (e.e. rhwng 1630 a 1900 o Lundain Paddington).                  Ni chodir tâl am eu cludo.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn derbyn beiciau ar ei threnau, fel arfer dau i bob trên gyda chyfyngiadau ar amserau brig. Argymhellir yn gryf eich bod yn bwcio er bydd beiciau’n cael eu derbyn ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ ar lawer o drenau. Ni chodir tâl am eu cludo.

BEICIAU AR GOETSIS

Mae National Express yn derbyn beiciau ar eu coetsis cyhyd â’u bod yn cael eu plygu a’u cludo mewn bag wedi’i badio addas neu gês caled. Nid yw Megabus yn cyfeirio’n benodol at feiciau ond maent yn derbyn hyd at 20kg o fagiau am ddim – mae hyn yn awgrymu y byddent yn derbyn beiciau.

DOD MEWN CAR: PARCIO A THEITHIO

Efallai yr hoffech adael eich car y tu allan i’r Ddinas ar safleoedd parcio a theithio Ffordd Fabian neu Landŵr Abertawe. Gallwch ddefnyddio’r cysylltiadau bysiau aml i ganol y ddinas: dim ond £2.50 am hyd at bedwar person. Am £1.70 yn ychwanegol, gallwch deithio i unrhyw ran o’r ddinas, Y Mwmbwls, Llandeilo Ferwallt a Pennard ar fws First Cymru.