DARGANFYDDWCH EI DIRWEDDAU A’I ARFORDIR ANHYGOEL – AC MAE’N DAITH FER AR FWS NEU FEIC O ABERTAWE
Mae’r rhan helaeth o Benrhyn Gŵyr yn perthyn i, neu dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Mae Canolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth yn Rhosili yn darparu gwybodaeth, cofroddion ac anrhegion.
Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
BYSIAU YM MRO GŴYR
Mae’r rhwydwaith bysiau Gower Explorer yn un o’r mwyaf cynhwysfawr mewn ardal wledig. Mae’r ddau brif lwybr o Abertawe i Rosili a Llanrhidian yn darparu gwasanaethau tua bob awr ar ddiwrnodau gwaith, a gwasanaethau ar y Sul yn y gwanwyn a’r haf.
Gwasanaethir y pentrefi llai gan fysiau cysylltiol llai aml ar ddiwrnodau gwaith ac yn uniongyrchol o Abertawe ar y Sul.
CERDDED YM MRO GŴYR
Mae nifer o lwybrau cerdded ym mhob rhan o Fro Gŵyr ac mae gwybodaeth am lawer ohonynt ar gael drwy ddefnyddio’r Ap This is Gower
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfres o deithiau cerdded diddorol ar y Penrhyn, gwiriwch nhw yma
Crëwyd y llwybr troed pellter hir, Llwybr Gŵyr gan Gymdeithas Gŵyr mewn cydweithrediad â Cherddwyr Abertawe. Mae’n mynd o Rosili ar ben gorllewinol Gŵyr i Benlle’r Castell yn hen Arglwyddiaeth Gŵyr i’r gogledd o Abertawe
BEICIO YM MRO GŴYR
Mae beicio’n heriol ar y rhan helaeth o’r penrhyn – dim ond beicwyr profiadol a hyderus ddylai fentro yno’n ddiogel. Fodd bynnag mae rhai llwybrau a lonydd gwledig tawel yn addas ar gyfer beicwyr teulu a’r rhai llai hyderus. Rydym yn cynnwys pedwar o’r llwybrau hyn, ac argymhellwn eich bod yn cludo’ch beiciau mewn car i rai ohonynt i osgoi prif ffyrdd anodd.
Llun © Wheelrights
CYFLWYNIAD I RAI O LEOEDD A
GWEITHGAREDDAU CYFAREDDOL GŴYR
Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
BAEAU A THRAETHAU O SAFON FYD-EANG
-
RHOSILI A PHEN PYROD
-
Terfynfa Rhosili (canol y pentref), 114, 118, 119
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae'r bae hwn yn lleoliad byd-enwog, gyda'i 4 cilometr o draeth tywodlyd, Pen Pyrod eiconig (gwiriwch y llanw cyn mynd yno), llawer o hanes diddorol, a Chanolfan Ymwelwyr. -
-
BAE’R TRI CHLOGWYN
-
Shepherd's Parkmill (1.5 km), 114, 117, 118
-
Clogwyni Pennard (1.25 km), 14, 114
Mae'r bae eiconig hwn wedi ennill nifer o wobrau am ei olygfeydd a'i leoliad eithriadol. Lleolir y bae 1 km oddi wrth y ffordd fawr a gallwch ei gyrraedd ar hyd llwybrau cerdded cyfeirbwyntiedig. Mae’n wir werth yr ymdrech o fynd yno. -
-
BAE PORTH EINON
-
Terfynfa Porth Einon (ger y traeth), 115, 117, 118
Mae pentref hyfryd Porth Einon wrth ymyl traeth tywodlyd sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac yn hawdd ei gyrraedd. Mae eglwys hanesyddol, gorsaf bad achub ac olion hen dŷ halltu, y Salthouse, yn y pentref. -
-
BAE OXWICH
-
Oxwich Cross, 114, 117 (ger y traeth)
Mae pentref Oxwich yn swatio ar ben pellaf traeth tywodlyd bendigedig, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei Warchodfa Natur Genedlaethol wych, ei eglwys hanesyddol a’r castell. -
-
BAE MEWSLADE
-
Croesffordd Pitton (0.5 km), 114, 118, 119
Mae'r trysor hwn heb fod ymhell oddi wrth y ffordd fawr, ac mae ei draeth diarffordd yn swatio yng nghanol clogwyni aruchel. Gallwch gyrraedd y bae ar hyd y llwybr troed o Pitton. -
-
BAE PWLL DU
-
Pyle Corner, Llandeilo Ferwallt (1 km), 14, 114
Mae hwn yn ‘gyfordraeth’ caregog, gwyllt a diarffordd sydd wir werth y daith ar hyd y llwybr troed heriol o Landeilo Ferwallt. -
HANES A THREFTADAETH CYFAREDDOL GŴYR
-
CANOLFAN DREFTADAETH GWYR
-
Shepherd's Parkmill (0.25 km), 114, 117, 118
-
Parcio i feiciau gerllaw
Amgueddfa bywyd gwledig yw hon sy'n troi o gwmpas melin ddŵr weithio o'r 12fed ganrif, gyda siopau a gweithgareddau crefft, parc antur a fferm anifeiliaid. Mae'n gartref i sinema lleiaf Cymru, La Charrette, a llawer mwy.Ewch i'r wefan -
-
Y VILE YN RHOSILI
-
Terfynfa Rhosili (cyfagos), 114, 118, 119
-
Parcio i feiciau gerllaw
System o lain-gaeau canoloesol yw’r Vile, ger pentref Rhosili. Daw'r enw o'r ffordd o ynganu'r gair 'field' yn hen dafodiaith Gŵyr ac mae'n un o'r ychydig lain-gaeau hanesyddol sy'n bodoli o hyd ym Mhrydain. Mae'r tir yn cael ei ffermio yn yr hen ddulliau canoloesol hyd heddiw. Llun © Yr Ymddiriedolaeth GenedlaetholEwch i'r wefan -
-
CASTELL OXWICH
-
Oxwich Cross (0.25 km), 114, 117
Nid castell go iawn yw hwn ond tŷ Tuduraidd mawreddog sy'n debyg i gastell ac a adeiladwyd ar safle hen amddiffynfeydd gan y teulu Mansel yn yr 16eg ganrif. Mae ar agor i'r cyhoedd bum diwrnod o'r wythnos o ddechrau'r gwanwyn (codir tâl mynediad)Ewch i'r wefan -
-
CASTELL PENNARD
-
Swyddfa Bost Pennard (0.25 km), 14, 114
Mae Castell Pennard yn adfail a saif ger y pentref o'r un enw. Cafodd ei adeiladu yn gynnar yn y 12fed ganrif ar ffurf amddiffynfa bren ar ôl goresgyniad y Normaniaid. Ailgodwyd ei furiau yn y 14eg ganrif, ond cafodd ei adael ac aeth yn adfail gan fod twyni tywod yn ennill ar y tir.Ewch i'r wefan -
-
CASTELL WEBLE
-
Castell Weble (cyfagos), 115, 116
Mae Weble’n un o'r maenordai caerog prin sydd wedi goroesi yng Nghymru. Roedd yn gartref i'r teulu de la Bere tan y 15fed ganrif, gyda golygfeydd digyffwrdd dros forfeydd a thraethellau lleidiog Gogledd Gŵyr. Ar agor i'r cyhoedd bob dydd o ddechrau'r gwanwyn (codir tâl)Ewch i'r wefan -
-
EGLWYS LLANMADOG
-
Grîn Llanmadog (0.25 km), 115, 116
Credir bod Eglwys hyfryd Madog Sant yn hanu o’r 6ed ganrif (mae’r piler â chroesau garw a’r marciwr ffin ar un o’r muriau mewnol yn dyddio o'r cyfnod hwn). Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 13eg ganrif. -
-
EGLWYS OXWICH
-
Oxwich Cross (0.25 km), 114, 117
Mae eglwys hynafol Illtyd Sant, sydd ynghudd yng nghanol y coed y tu hwnt i'r gwesty, yn hanu o'r 6ed ganrif ac ychwanegwyd tŵr ati yn y 14eg ganrif. Daw'r ffenestr ddwyreiniol a'r ffigyrau o farchog a boneddiges ym mur y gogledd o'r un cyfnod -
-
EGLWYS PORTH EINON
-
Terfynfa Porth Einon (cyfagos), 115, 117, 118
Sefydlwyd Eglwys Cadog Sant yn y 6ed ganrif er bod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 12fed ganrif. Mae ei nodweddion diddorol yn cynnwys cawg dŵr swyn yn y cyntedd (dywedir bod hwn yn rhodd gan gapten llong Sbaenaidd mewn diolchgarwch i'w achubwyr). -
-
EGLWYS RHOSILI
-
Terfynfa Rhosili (cyfagos) 114, 118, 119
Sefydlwyd y Santes Fair yn ddiweddarach na'r eglwysi eraill yn y 12fed ganrif gan gyfaneddwyr Eingl-Normanaidd. Un o'r nodweddion diddorol yw cofeb i'r Is-swyddog, Edgar Evans, brodor o Rosili a fu farw gyda Chapten Scott yn yr Antartig yn 1912. -
-
EGLWYS LLANRHIDIAN
-
Llanrhidian Cross (0.5 km), 115, 116, 119
Sefydlwyd eglwys Rhidian Sant ac Illtyd Sant yn y 6ed ganrif ac mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 13eg ganrif. Un o'r nodweddion yw bloc o garreg (‘Gwely'r Person’) ar ben y tŵr gorllewinol a ddefnyddiwyd i gynnau coelcerth i rybuddio pan fyddai gelynion yn agosáu ar y tir neu ar y môr.Ewch i'r wefan -
-
CHWEDL Y BRENIN ARTHUR
-
Copa Cefn Bryn – bysiau’n aros ar gais (0.5 km), 115, 119
Saif y Maen Ceti (Arthur's Stone) chwedlonol ger copa Cefn Bryn. Dywedir iddo lanio yno pan dynnodd y brenin chwedlonol garreg o'i esgid a'i thaflu ar draws Moryd Llwchwr! -
RHYFEDDODAU NATURIOL GŴYR
-
GWARCHODFA NATUR GENEDLAETHOL OXWICH
-
Oxwich Cross (0.25 km), 114, 117
Mae hon yn un o'r gwarchodfeydd pwysicaf yng Nghymru, ac yn lle gwych i weld tegeirianau gwyllt ar ddiwedd Mai a Mehefin. Yn y warchodfa a'r coetiroedd ynn o’i hamgylch mae mwy na 600 o rywogaethau o blanhigion yn tyfu. Mae'r bywyd adar yn nodedig ac mae'r llynnoedd dŵr croyw'n darparu cynefin gaeafu i adar dŵr. -
-
MORFA HELI LLANRHIDIAN
-
Crofty (pen dwyreiniol), 116
-
Llanrhidian Cross (pen gorllewinol), 115, 116, 119
Mae Morfa Heli Llanrhidian yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'n nodedig am ei dirwedd a'i fywyd gwyllt. Mae'n un o'r enghreifftiau gorau o forfa heli ym Mhrydain ac mae o bwys rhyngwladol oherwydd ei boblogaeth anferth o adar dŵr ac adar hirgoes sy'n gaeafu yno. Mae defaid, gwartheg a cheffylau’n byw ac yn pori ar y morfa. -
-
GWARCHODFA NATUR GENEDLAETHOL WHITFFORDD
-
Llanmadog Tafarn Britannia (0.5 km), 115, 116
Mae Gwarchodfa Twyni Whitffordd yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'n nodedig am harddwch ei thirwedd a'i bywyd gwyllt. Mae'n un o'r systemau twyni gorau ym Mhrydain gydag amrywiaeth eang o gynefinoedd twyni. Saif Traeth Whitffordd i'r dwyrain o'r Twyni, gyda goleudy haearn bwrw adfeiliedig ar y pen gogleddol. Mae golygfeydd gwych ar draws y foryd tuag at Draeth Pen-bre a Phorth Tywyn. -
ADLONIANT AC ANTUR
Yn ogystal â’i harddwch naturiol, mae Gŵyr yn lle gwych am weithgareddau antur, yn enwedig ar hyd ei arfordir gwyllt a gogoneddus.
-
CANOLFAN SAETHYDDIAETH A HEBOGYDDIAETH PERRISWOOD
-
Nicholaston Court (0.25 km), 114, 117, 118
Mae Perriswood yng nghanol Gŵyr uwchben Bae syfrdanol Oxwich ac mae'n darparu amrywiaeth o weithgareddau y gall pawb eu mwynhau. Mae sesiynau saethyddiaeth ar gael bob dydd a threfnir diwrnodau arddangos a phrofiad gydag adar ysglyfaethus.Ewch i'r wefan -
-
GOWER COAST ADVENTURES
-
Oxwich Cross (ger y traeth), 114, 117
Dyma gyfle i daro ar fywyd gwyllt anhygoel ar y daith gron o Fae Oxwich i Ben Pyrod, wrth i chi gadw gyda'r arfordir a mwynhau'r olygfa ogoneddus o safbwynt unigryw.Ewch i'r wefan -
-
CANOLFAN FFERM Y CLUN
-
Owls Lodge, 14, 37 (llwybr goleddfol ar hyd Rhodfa Westport – tua 15mun)
Saif Canolfan Fferm y Clun mewn 80 erw o borfa a choetir hardd uwchben Bae Abertawe ac mae'n lle da am benwythnos o antur neu wyliau byrion, am farchogaeth ceffylau neu am antur yn Challenge Valley – y cwrs ymosod mwyaf mwdlyd yn y byd.Ewch i'r wefan -
-
DRYAD BUSHCRAFT
Mae Dryad yn cynnig amrywiaeth o Gyrsiau Coedwriaeth a Goroesi arbenigol ym Mro Gŵyr, a gynlluniwyd i addysgu sgiliau a thechnegau mewn ffordd ddiogel a phleserus. Nid yw'r gweithgareddau hyn mewn lleoliadau sefydlog. Pan fyddwch yn gwybod lle mae’r lleoliad, ewch i Traveline Cymru i gael gwybodaeth am sut i gyrraedd yno ar y bws.Ewch i'r wefan -
GOWER TOURS
Cyfle i weld harddwch naturiol yr arfordir a chefn gwlad, ynghyd â hanes a threftadaeth Gŵyr, ar deithiau dan arweiniad arbenigwyr lleol. Mannau codi yng Ngorsafoedd Bysiau a Threnau Abertawe ymhlith eraill.Ewch i'r wefan -
GOWER UNEARTHED
Nod Gower Unearthed yw ailddarganfod ac ailgipio hanes Gŵyr ac mae'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd naturiol, gan ddogfennu a chyflwyno'r pethau a ddatguddir mewn ffordd ffres a hygyrch. Nid yw'r gweithgareddau hyn mewn lleoliadau sefydlog. Pan fyddwch yn gwybod lle mae'r lleoliad, ewch i Traveline Cymru i gael gwybodaeth am sut i gyrraedd yno ar y bws.Ewch i'r wefan -
Rip n Rock
Darparwr chwaraeon antur awyr agored yw Rip n Rock. Maent yn cynnig gweithgareddau ar Benrhyn Gŵyr ac yn Ne Cymru: arfordiro, cerdded ceunant, syrffio, dringo, abseilio a mwy. Nid yw'r gweithgareddau hyn mewn lleoliadau sefydlog. Pan fyddwch yn gwybod lle mae'r lleoliad, ewch i Traveline Cymru i gael gwybodaeth am sut i gyrraedd yno ar y bws.Ewch i'r wefan
SYRFFIO A CHWARAEON DŴR GŴYR
Mae nifer o weithredwyr yn cynnig hurio offer syrffio a/neu wersi syrffio mewn mannau o gwmpas yr arfordir ac mae’r lleoedd hyn ar gael ar gyfer syrffio unigol heb fwcio ymlaen llaw.
Gower Surfing ym Mae Caswell drwy’r holl flwyddyn ac yn Rhosili yn yr haf Llangennith Surf Lessons ar draeth Llangynydd drwy’r holl flwyddyn Surf GSD gwersi ym Mae Caswell
PJ’s Surf Shop Llangynydd
Hot Dog Surf Shop Kittle
Oxwich Watersports, Bae Oxwich
-
SYRFFIO YM MAE CASWELL
-
Bae Caswell (ger y traeth), 2C diwrnodau gwaith, 3A ar y Sul
Syrffio ym Mae Caswell -
-
SYRFFIO YN RHOSILI
-
Terfynfa Rhosili (ger y traeth), 114, 118, 119
Syrffio yn Rhosili -
-
SYRFFIO YN LLANGYNYDD
-
Terfynfa Llangynydd (2 km), 115, 116
Syrffio yn Llangynydd -
-
Gower Kite Riders
-
Terfynfa Llangynydd (1.5 km), 115, 116
Barcudfyrddio ar Draeth BrychdynEwch i'r wefan -
-
PADLFYRDDIO AR EICH SEFYLL
Mae padlfyrddio ar eich sefyll yn weithgaredd dŵr hawdd a hygyrch sy'n ffordd wych i bobl fwynhau'r dŵr – ac mae ar gael ym Mro Gŵyr. Nid yw'r gweithgareddau hyn mewn lleoliadau sefydlog. Pan fyddwch yn gwybod lle mae'r lleoliad, ewch i Traveline Cymru i gael gwybodaeth am sut i gyrraedd yno ar y bws.Ewch i'r wefan
CANŴIO, DRINGO, ARFORDIRO A MWY!
Dyma’r cwmnïau antur sy’n cynnig anturiaethau ym Mro Gŵyr:
Adventure Britain
Gower Adventures
Hawk Adventures
Gwersi Hedfan ym Maes Awyr Abertawe
Prif fynedfa Maes Awyr Abertawe (0.25 km)
Mae dau gwmni’n darparu gwersi hedfan:
Cambrian Flying Club
Gower Flight Centre