Mae gan ardal Bae Abertawe rwydwaith cynhwysfawr o drafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau beiciau a llwybrau cerdded
Does dim angen car – mae digon o ffyrdd gwahanol, hwylus o fynd o gwmpas
Trenau
Mae gwasanaethau trenau aml yn rhedeg rhwng Tre-gŵyr, Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, a rhai llai aml i Lansamlet, Sgiwen, Llansawel a Baglan. Mae rheilffordd Calon Cymru’n gwasanaethu Pontarddulais, gyda gwasanaeth sylfaenol o 4-5 trên y dydd i’r ddau gyfeiriad.
Amserlen De Orllewin Cymru (yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru a Great Western)
Amserlen Calon Cymru
BYSIAU
Gall bysiau lleol eich cludo’n syth i dros 90% o’r atyniadau ac mae’r rhwydwaith cynhwysfawr yn cwmpasu Dinas Abertawe i gyd, Y Mwmbwls, Gŵyr, Castell-nedd, Port Talbot a’r Cymoedd. Mae bysiau cyflym Cymru Clipper yn cysylltu Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot â’i gilydd ac â’r rhan fwyaf o’r cymoedd.
METRO ABERTAWE
Mae Llwybr 4 yn rhedeg bob 10 munud yn ystod y dydd (y 4A yn llai aml gyda’r hwyr ac ar y penwythnos) gan gysylltu Ysbyty Treforys (Adran Damweiniau ac Achosion Brys) â Champws y Bae’r Brifysgol drwy Stadiwm Liberty, yr orsaf drenau, canol y ddinas, Neuadd y Ddinas/San Helen, Parc Singleton ac Ysbyty Singleton.
METRO’R MWMBWLS
Mae llwybrau 2/2A/2B/2C gyda’i gilydd yn rhedeg bob 15 munud (yn llai aml gyda’r hwyr ac ar y Sul) gan gysylltu canol y ddinas ag Ystumllwynarth drwy San Helen, Parc Singleton a Blackpill (gydag estyniadau i Faeau Langland, Caswell a Limeslade a Phier y Mwmbwls bob awr o leiaf).
METRO CASTELL-NEDD PORT TALBOT
Mae Llwybr 87 yn rhedeg bob 20 munud yn ystod y dydd (yn llai aml gyda’r hwyr ac ar y Sul) gan gysylltu canol tref Castell-nedd â Margam* drwy Lansawel, Ysbyty NPT (Adran Damweiniau ac Achosion Brys) â chanol tref /gorsaf drenau Port Talbot.
*nid Parc Gwledig Margam – gwasanaethir hwn gan y Cymru Clipper X1/X4
Gower Explorer
Mae rhwydwaith da o wasanaethau’n cyrraedd y rhan fwyaf o Benrhyn Gŵyr gyda gwasanaeth ar ddiwrnodau gwaith drwy’r holl flwyddyn a gwasanaeth arbennig ar ddiwedd y Gwanwyn ac yn yr Haf.
Llwybr 14 rhwng Abertawe a Chlogwyni Pennard drwy Blackpill a Llandeilo Ferwallt
Llwybr 116 rhwng Abertawe a Llanrhidian drwy Dre-gŵyr a Phenclawdd
Llwybrau 118/119 rhwng Abertawe a Rhosili ar amrywiol lwybrau
Llwybrau 115 a 117 ar gyfer gwasanaethau cysylltiol i Lanmadog, Llangynydd, Bae Oxwich, Horton a Phorth Einon
Llwybrau 114/118 (Ar y Sul a Gwyliau Banc ar ddiwedd y Gwanwyn ac yn yr Haf) rhwng Abertawe a Rhosili drwy Pennard, Bae Oxwich, Porth Einon bob yn ail
Cymru Clipper
Rhwydwaith o lwybrau sy’n eich cludo’n gyflym o gwmpas yr ardal
Llwybr X1 rhwng Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr drwy Bort Talbot a Pharc Margam
Llwybr X3 rhwng Abertawe a Maesteg drwy Bort Talbot a’r Bryn
Llwybr X4 rhwng Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr, Port Talbot a Pharc Margam
Llwybr X6 rhwng Abertawe ac Ystradgynlais drwy Bontardawe ac Ystalyfera
Llwybr X13 rhwng Abertawe a Rhydaman drwy Benllergaer a Phontarddulais
Llwybr X55 rhwng Abertawe a Glyn-nedd drwy Gastell-nedd a Resolfen
UNIBUS ABERTAWE
Llwybr 8 – yn cysylltu Pentref y Myfyrwyr a Champws Singleton â Champws y Bae drwy ganol y ddinas (yn cynnwys gwasanaeth drwy’r nos yn ystod y tymor)
Llwybr 8X – bws cyflym yn cysylltu Campws Singleton a Champws y Bae drwy Barcio a Theithio’r Orsaf Drenau a Ffordd Fabian â’r Ganolfan Ddinesig
Llwybr 10 – yn cysylltu Campws Singleton a Champws y Bae drwy’r Orsaf Drenau
Swansea Park & Ride
Llwybr 501 – rhwng Glandŵr (cyffordd 45 yr M4 a’r A4067) a Chanol Dinas Abertawe
Llwybr 502 – rhwng Ffordd Fabian (cyffordd 42 yr M4 a’r A48) a Chanol Dinas Abertawe
First Cymru – mae’r bysiau’n rhedeg ar y rhan fwyaf o lwybrau yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot
New Adventure Travel – yn gweithredu ar lwybrau 114-119 Gŵyr a’r T6 Traws Cymru Abertawe a Chastell-nedd i Aberhonddu
South Wales Transport – yn gweithredu ar nifer o lwybrau lleol yn Abertawe, Castell-nedd a Chwm Tawe
TOCYNNAU BWS AR GYFER TEITHIO O GWMPAS YR ARDAL
Ap ffôn clyfar First ar gyfer prynu tocynnau ar eich ffôn: tocynnau bws First Cymru yn defnyddio’u ap ffôn clyfar First newydd. Ar gael ar Apple ac Android.
Tocynnau Teithio Drwy’r Dydd – camu mewn ac allan
Gower Day Rider: llwybrau 114-119 Abertawe a Gŵyr cynhwysol a weithredir gan New Adventure Travel (NAT): £5.20 oedolyn; £3.60 16 ac iau; mae tocynnau teulu wedi’u disgowntio ar gael.
First Day Bae Abertawe: Yr holl lwybrau yn Abertawe, Y Mwmbwls, Castell-nedd, Port Talbot a’r cymoedd a weithredir gan First Cymru: £4.70 oedolyn (£4.20 ar iphone); £3.10 16 ac iau a deiliaid My Travel Pass hyd at 25 oed; mae tocynnau teulu wedi’u disgowntio ar gael.
Explore Gower Day: Yr holl lwybrau yn ninas Abertawe, Y Mwmbwls a Gŵyr gyda thocyn drwy’r dydd, mynd i unrhyw le, ar yr holl fysiau First a NAT: £7.50 oedolyn; £5.00 16 ac iau; mae tocynnau teulu wedi’u disgowntio ar gael.
Gwybodaeth am amserau bysiau 2019 o Fro Gŵyr – gallwn roi copi i chi o’r poster ymadawiadau bysiau lleol ar gyfer pentrefi a baeau detholedig ym Mro Gŵyr. Cliciwch i gael pdf ar gyfer:
Horton
Llangynydd
Llanmadog
Llanrhidian
Oxwich
Parkmill
Porth Einon
Reynoldston
Rhosili
Scurlage
BEICIO
Mae rhwydwaith strategol da o lwybrau beiciau yn ardal Bae Abertawe sy’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN), gyda nifer o lwybrau oddi ar y ffordd ac ar isffyrdd sy’n rhoi cyfleoedd beicio eitha cynhwysfawr ac eithrio ym Mro Gŵyr.
Am wybodaeth fwy manwl, manylion hurio beiciau, ac adnoddau defnyddiol eraill, ewch i’r dudalen feicio
EWCH I FAP BEICIO BAE ABERTAWE
LLWYBRAU ARGYMELLEDIG
Dinas Abertawe a’r Mwmbwls
Y llwybrau mwyaf poblogaidd a defnyddiol yw’r NCN4 o SA1 drwy’r Marina i San Helen, Blackpill, Cilâ, Dynfant a Thre-gŵyr, a’r llwybr cysylltiol lleol o Blackpill i West Cross, Ystumllwynarth a’r Mwmbwls. Mae’r ddau lwybr yn hollol ddi-draffig. Caniateir beicio ym mhob rhan o Barc Singleton ac mae’r llwybrau oddi ar y ffordd hyn yn cysylltu â’r NCN4 wrth fynedfa Heol Ystumllwynarth y parc.
Gŵyr
Nid oes llawer o lwybrau yng Ngŵyr sy’n ddi-draffig er mai traffig ysgafn sydd ar rai ohonynt. Cynghorir beicwyr llai profiadol i beidio â defnyddio’r B4295 yng ngogledd Gŵyr ac eithrio rhwng heol Pont-y-Cob a’r Rake and Riddle, lle mae toriad yn y trac beicio oddi ar y ffordd. Ni ddylid defnyddio’r A4118 rhwng Cilâ Uchaf a Reynoldston ychwaith, mae’r B4271 yn ffordd dawelach a mwy diogel yng nghanol Gŵyr. Ewch i’r dudalen feicio am ragor o fanylion am lwybrau argymelledig
Gogledd Abertawe a Mawr
Ar wahân i’r NCN43 ar yr ochr ddwyreiniol drwy Dreforys a Chlydach, nid oes llwybrau beicio sy’n hollol oddi ar y ffordd yn yr ardal hon. Fodd bynnag, mae’r rhwydwaith o ffyrdd gwledig o fewn terfynau Craig Cefn Parc i’r dwyrain, a Llangyfelach, Pontlliw a Phontarddulais i’r de a’r gorllewin yn dawel ac yn hardd iawn (er eu bod yn serth mewn mannau) ac mae’n ardal feicio dda.
Abertawe, Cymoedd Nedd ac Afan
Mae nifer o lwybrau NCN, gyda rhannau helaeth oddi ar y ffordd:
NCN43 Cwm Tawe
NCN46 Cwm Nedd
NCN47 Cwm Afan
Mae nifer o lwybrau beiciau lleol hefyd.
Beicio Mynydd ym Mharc Coedwig Afan
Mae Parc Coedwig Afan yn fyd-enwog am ei lwybrau a’i gyfleusterau beicio mynydd. Mae’n agos i’r NCN4 a’r NCN46 ac mae’r NCN47 yn ei groesi. Os hoffech ddod ar y trên, mae’n hawdd ei gyrraedd drwy deithio i Barcffordd Port Talbot, lle mae llwybr beicio cysylltiol i Gwm Afan.
Darperir y wybodaeth gan Wheelrights www.wheelrights.org.uk, sef grŵp ymgyrchu beicio lleol y mae ei wefan yn daprau gwybodaeth ddefnyddiol iawn.
CERDDED
Mae nifer o sefydliadau lleol yn darparu gwybodaeth am lwybrau cerdded ac mae rhai yn trefnu rhaglenni teithiau cerdded yn lleol.
Am wybodaeth fwy manwl am gerdded, ewch i’r dudalen feicio
Cerddwyr Abertawe
Yn helpu pobl leol i fwynhau cerdded ac yn diogelu’r lleoedd rydym yn mwynhau eu cerdded. Yn cynnig rhaglen o deithiau cerdded wythnosol o amrywiol hydoedd dan arweiniad arbenigwyr lleol.
Cerddwyr Castell-nedd Port Talbot
Yn cynnig rhaglen o deithiau cerdded sy’n amrywio bob wythnos, o deithiau cerdded lleol o gwmpas yr ardal i deithiau cerdded ymhellach i ffwrdd.
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Yn cynnig ystod o ‘Deithiau Cerdded Gorau Gŵyr’ y gallwch eu lawrlwytho o’i gwefan.
Cymdeithas Gŵyr
Yn trefnu teithiau cerdded ar ddydd Sadwrn a Sul trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai yn ddigwyddiadau ar y cyd â’r Cerddwyr lleol, a threfnir rhai teithiau cerdded canol wythnos hefyd.
This is Gower
Yr ap Gŵyr sy’n cynnwys manylion am y llwybr arfordir a theithiau cerdded eraill ar y penrhyn.
Ewch i’r Dudalen Gerdded am deithlenni llawn ar gyfer saith taith gerdded arfordirol ar y penrhyn. I weld amserau eich bysiau a threnau lleol, ynghyd â gwybodaeth am gerdded, beicio, trafnidiaeth gymunedol a pharcio a theithio, ewch i Traveline Cymru; 0800 464 00 00.