TRAETHAU EURAIDD – ADLONIANT GWYCH – LLOND LLE O FWYTAI, CAFFIS A THAFARNAU DA – SIOPA O SAFON
Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
GALLWCH DDAL UN O’R BYSIAU AML O ABERTAWE BOB DYDD YR WYTHNOS
Mae’r bysiau’n mynd bob 15 munud yn ystod y dydd, dau bob awr gyda’r hwyr/ar y Sul, i Ystumllwynarth ar hyd y llwybr hardd hwn gyda golygfeydd panoramig dros Fae Abertawe.
Bob awr yn ystod y dydd i Fae Caswell a Limeslade (ar gyfer Bae Breichled).
GALLWCH FEICIO NEU GERDDED YNO’N DDI-DRAFFIG
Mae lonydd ar wahân i gerddwyr a beicwyr ar lwybr yr arfordir yr holl ffordd o Abertawe i’r Mwmbwls. Mae’r amwynder poblogaidd hwn yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru ac mae’n llwybr dwyffordd nes i chi gyrraedd Pier y Mwmbwls. Mae’r llwybr cerdded yn parhau o gwmpas yr arfordir trwy Faeau Breichled a Langland i Fae Caswell a Phenrhyn Gŵyr
Mwy o fanylionCYFLWYNIAD I RAI O’R ATYNIADAU Y GALLWCH
EU MWYNHAU YN Y MWMBWLS
Cynlluniwch eich taith i’r lleoliadau isod gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
BAEAU A THRAETHAU O SAFON FYD-EANG
-
BAE BREICHLED
-
Bae Breichled (cyfagos) 2B 3A, (2A gyda’r hwyr/ar y Sul)
Mae'r traeth hardd hwn mewn safle tawel yng nghysgod Trwyn y Mwmbwls a'i oleudy eiconig. Mae caffi bar, bwyty a gelateria gerllaw. -
-
BAE LANGLAND
-
Bae Breichled (cyfagos) 2B 3A, (2A gyda’r hwyr/ar y Sul)
Mae’r bae hwn yn adnabyddus am ei gytiau glan môr lliwgar, ac mae'r traeth tywodlyd yn addas iawn ar gyfer syrffwyr pan fydd yr ymchwydd yn fawr. Mae brasserie a chaffi gerllaw. -
-
BAE CASWELL
-
Bae Caswell (cyfagos), 2C (3A ar y Sul)
Mae Bae Caswell yn ehangder mawr, cysgodol o dywod euraidd. Mae'n lleoliad syrffio poblogaidd gydag ysgol syrffio ar y safle. Mae yna gaffi a siop anrhegion, a thoiledau cyhoeddus. -
HANES NATURIOL A THREFTADAETH
-
PARC GWLEDIG DYFFRYN CLUN
-
Lido Blackpill (100m ar droed), 2, 2A, 2B, 2C, 3A, 37
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae hwn yn un o barciau harddaf Abertawe – mae’n ffrwydro ag amrywiaeth o lwyni a phlanhigion lliwgar yn y gwanwyn. A thrwy gydol y flwyddyn hefyd, mae'n baradwys goediog, ddiarffordd. -
-
GWARCHODFA NATUR BRYN Y MWMBWLS
-
Bae Breichled (cyfagos), 2B 3A (2A gyda’r hwyr/ar y Sul)
Gwarchodfa fechan yw hon ar y brig creigiog uwchlaw Trwyn y Mwmbwls, sydd ag amrywiaeth gyfoethog o adar, pryfed a mamolion bach. Mynediad gyferbyn â Bae Breichled. Llun gan Sean Hathaway. -
-
GWARCHODFA NATUR COED YR ESGOB
-
Bae Caswell (200m ar droed), 2C (3A ar y Sul)
Dewch yma i fwynhau taith gerdded fer trwy goedwig ynn llawn dwf gydag amrywiaeth o fflora a ffawna bychain a golygfeydd hardd dros y môr. Mynediad o ben gogleddol maes parcio Caswell. Llun gan Sean Hathaway.Lawrlwytho PDF -
-
LLWYBR CERDDED DYFFRYN LLANDEILO FERWALLT
-
Swyddfa Bost Kittle (cyfagos), 14 (114 ar y Sul yn y tymor brig)
Taith gerdded heriol 6km drwy ddyffryn coediog, gydag ogofeydd calchfaen ac afonydd tanddaearol, i un o draethau mwyaf diarffordd Gŵyr ym Mhwll Du.Lawrlwytho PDF -
-
CASTELL YSTUMLLWYNARTH
-
Heol Newton (150m ar droed), 2, 2A, 2B, 2C, 3A, 37
Dyma’r castell mwyaf a gorau ei gyflwr ymhlith cestyll Gŵyr, ac mae'n dyddio o'r 12fed ganrif. Cafodd ei ehangu yn y 13eg ganrif, ond aeth yn adfail yn yr 16eg ganrif. Nawr mae'n gofeb hanesyddol hardd sy'n agored i ymwelwyr yn y gwanwyn a'r haf.Ewch i'r wefan -
-
CASTELL PENNARD
-
Swyddfa Bost Pennard (300m ar droed), 14 (114 ar y Sul yn y tymor brig)
Saif Castell Pennard mewn lleoliad aruchel uwchlaw Bae'r Tri Chlogwyn gyda disgyniad serth i'r dyffryn isod. Mae'r adeilad gwreiddiol yn dyddio o'r 12fed ganrif, ond cafodd hwn ei adael ddwy ganrif yn ddiweddarach ar ôl i’r tywod ennill arno. Ailgodwyd y castell yn y 14eg ganrif a dyma'r adfail a welwch heddiw.Ewch i'r wefan -
-
PIER A GOLEUDY'R MWMBWLS
-
The Big Apple (250m ar droed ar risiau neu ffordd serth), 2B 3A (2A gyda’r hwyr/ar y Sul)
Mae'r pier hanesyddol hwn yn dyddio o oes Fictoria, a chafodd ei adeiladu yn 1898. Mae’n nodwedd leol eiconig a chyn hir bydd yn ailagor i'r cyhoedd ar ôl cael ei adnewyddu. Saif yr hen orsaf bad achub a'r un newydd yma hefyd, ynghyd â'r goleudy (yn dyddio o 1794 ac mewn defnydd o hyd, ond wedi'i awtomeiddio bellach). -
-
PENTREF Y MWMBWLS
-
Sgwâr Ystumllwynarth, 2, 2A, 2B, 2C, 3A, 37
Mae pentref bywiog y Mwmbwls yn swatio ar y llethr serth uwchlaw'r arfordir. Mae ei strydoedd yn blith-draphlith o dai lliwgar. -
ADLONIANT A GWEITHGAREDDAU
-
SYRFFIO
-
Bae Caswell (cyfagos), 2C (3A ar y Sul)
Mae Baeau Caswell a Langland yn enwog am eu cyfleoedd syrffio. Mae ysgol syrffio ym Mae Caswell. -
-
ADLONIANT AR BIER Y MWMBWLS
-
The Big Apple (250m ar droed ar risiau neu ffordd serth), 2B 3A (2A gyda’r hwyr/ar y Sul)
Mae'r pier a'r atyniadau o'i gwmpas yn nodwedd bwysig o'r Mwmbwls. Mae'r cyfadeilad yn cynnwys arcêd difyrion, siopau anrhegion, caffis a gorsaf bad achub sydd ar agor i'r cyhoedd. -
-
LLE CHWARAE I BLANT A GOLFF MINI
-
Sgwâr Ystumllwynarth/Heol Newton (100-200m ar droed), 2, 2A/B/C, 3A, 37
Mae lle chwarae i blant a chwrs golff mini cyfagos heb fod ymhell o Sgwâr Ystumllwynarth. -
-
LIDO BLACKPILL
-
Lido Blackpill (cyfagos), 2, 2A, 2B, 2C, 3A, 37
-
Parcio i feiciau gerllaw
Cyfleuster am ddim: hwyl i'r teulu gyda phwll padlo, lle chwarae a chyfleusterau picnic. -
-
GOLFF TROED ABERTAWE
-
Heol Ashleigh, West Cross (cyfagos), 2, 2A, 2B, 2C, 3A, 37
-
Parcio i feiciau gerllaw
Mae golff troed, sy'n gyfuniad o bêl-droed a golff, gyda rheolau tebyg i rai golff i raddau helaeth, ar gael ar y cwrs 9/18 twll yn Heol Ashleigh, West Cross.Ewch i'r wefan -
-
BEICIO HAMDDEN
Mae dau lwybr beicio hamdden gwych i ardal Y Mwmbwls ac o’i chwmpas. Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol NCN4 yn dilyn yr arfordir o Abertawe i Blackpill lle mae'n troi i’r tir i fyny Dyffryn hardd Clun at Dre-gŵyr. Mae'r llwybr arfordirol yn parhau i Knab Rock yn Y Mwmbwls.Ewch i'r wefan -
TRÊN BACH BAE ABERTAWE
-
Lido Blackpill 2 2A 2B 2C 3A
Mae Trên Bach Bae Abertawe yn drên tir â 72 o seddau sy’n teithio ar hyd y promenâd, o Lido Blackpill i Erddi Southend yn Y Mwmbwls. Gall y teithwyr fwynhau golygfeydd gwych dros Fae Abertawe. -
THERAPI ADWERTHU A BWYD
Mae’r Mwmbwls yn llawn dop o leoedd diddorol i brynu pethau a bwyta ac yfed yn dda.
-
GLANFA WYSTRYS A SGWÂR YSTUMLLWYNARTH
-
Sgwâr Ystumllwynarth 2, 2A, 2B, 2C, 3A, 37
-
Parcio i feiciau gerllaw
Prynu Mae nifer o siopau diddorol yma lle gallwch edmygu neu brynu eitemau fel Llwyau Caru Cymreig eiconig. Mae siopau ffasiwn a brandiau ‘stryd fawr’ wedi dod yma'n ddiweddar hefyd gan addo diwrnod allan ardderchog. Bwyta ac Yfed Mae datblygiad Glanfa Wystrys yn safle rhagorol am fwyta allan, gyda nifer o farrau a bwytai da sydd â golygfeydd dros y môr! -
-
HEOL NEWTON, HEOL Y CAPEL A HEOL Y FRENHINES
-
Heol Newton 2, 2A, 2B, 2C, 3A, 37
Mae'r ardal hon o'r Mwmbwls yn llawn siopau a lleoedd i fwyta ac yfed hirsefydlog, ynghyd â rhai newydd-ddyfodiaid diddorol. Prynu Dyma'r lle i ddod i wneud pryniannau egsotig – porwch ymhlith y bric-a-brac, eitemau dodrefnu cain, llyfrau da, ac ati. Bwyta ac Yfed Ar hyd Heol Newton mae cyfres o gaffis, bistros a bwytai da sy'n darparu bwydydd at ddant pawb. -
-
SOUTHEND A KNAB ROCK
-
Gwesty'r George 2B 3A (2A gyda’r hwyr ac ar y Sul)
-
Parcio i feiciau gerllaw
Bwyta ac Yfed Mae’r llain draddodiadol o’r enw Milltir y Mwmbwls rhwng Ystumllwynarth a Phier y Mwmbwls yn adnabyddus am ei hamrywiaeth o fwytai, barrau, gelaterias ac ati – mae rhywbeth yma at ddant pawb. -
-
BAE BREICHLED
-
Bae Limeslade 2B (2A gyda’r hwyr ac ar y Sul)
Mae'r bae hardd hwn ynghudd y tu hwnt i benrhyn y Mwmbwls. Bwyta ac Yfed Mae bwyty a chaffi bar da yma lle gallwch fwynhau'r golygfeydd syfrdanol wrth fwyta ac yfed. Mae siop hufen iâ draddodiadol yma hefyd. -
-
BAE LANGLAND
-
Langland Corner (500m ar droed, eithaf serth), 2, 2B, 2C (2A, 3A ar y Sul)
Bwyta ac Yfed Mae Brasserie a Chaffi glan y môr yn Langland. -
-
BAE CASWELL
-
Bae Caswell 2C (3A ar y Sul)
Bwyta ac Yfed Mae caffi ar lan y môr yn Caswell. -
Lleoedd I Aros
Llety yn Y Mwmbwls
Dolennau i Westai
Dolennau i Lety Gwely a Brecwast
Dolennau i Hunanarlwyo