Crwydro'r Arfordir:
Bae Caswell – Clogwyni Pennard
GOLYGFEYDD GOGONEDDUS O BEN PWLL DU A'R STORMDRAETH YM MAE PWLL DU
Mae’r darn hwn o’r Llwybr Arfordir yn cynnwys un o’r rhannau mwyaf rhyfeddol o arfordir Gŵyr, sydd yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’. Mae’n dilyn y llwybr troellog ar hyd pen y clogwyni o Fae Caswell i Fae Pwlldu cyn rowndio Pen Pwlldu gyda’i olygfeydd arfordirol anhygoel. Mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen uwchlaw Slade a High Tor i Glogwyn Pennard. Mae cymaint i’w weld ar hyd y rhan hon o’r Llwybr Arfordir, gyda’i golygfeydd syfrdanol – nid yw’n rhan y dylech frysio ar ei hyd.
MANYLION Y LLWYBR
Bydd eich dull o adael Caswell (CG 593876) yn dibynnu ar y llanw. Pan fo’r môr ar drai gallwch gyrraedd y llwybr ar hyd y traeth, ond pan fo’r llanw’n uchel mae’n rhaid defnyddio’r isffordd i gyfeiriad Llandeilo Ferwallt, ac yna troi i’r chwith i ffordd fach bengaead (CG 592877) sy’n arwain i allanfa gul a llwybr arfordir mwdlyd ac eithaf serth. Mae hwn yn eich tywys uwchlaw traeth Brandy Cove ac ar hyd yr arfordir i Fae Pwlldu.
Mae’n ymddangos bod y Llwybr Arfordir yn mynd ar hyd y traeth, ond gwyliwch yr arwyddion yn ofalus a throwch i’r dde ac i fyny’r rhiw serth trwy goedwig drwchus (GR 575873). Pan gyrhaeddwch Ben Pwlldu, bydd golygfa ogoneddus yn ymagor o’ch blaen. Oddi yma, mae’r llwybr yn dilyn pen y clogwyn uwchlaw Deep Slade sydd â golygfeydd da i gyfeiriad Bae Tor a Bae Oxwich cyn troi’n llwybr glaswellt ar Fferm Hunts. Mae’r Llwybr Arfordir yn parhau ar laswellt ar ochr arfordirol yr isffordd sy’n arwain i bentref Pennard.
Mae’r rhan hon o’r Llwybr yn diweddu wrth ochr maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (CG 554874) ger Siop Goffi’r Tri Chlogwyn a’r derfynfa fysiau.