Crwydrwch o gwmpas ardal Bae Abertawe ar y llwybrau beicio ardderchog sy’n addas i bobl o bob oedran
P’un ai fyddwch yn mwynhau beicio hamdden hawdd ar hyd y llwybr arfordir neu’r hen leiniau rheilffordd yn y Cymoedd, neu byddai’n well gennych fentro i dir serth, garw, llawn adrenalin ar gyfer Beicio Mynydd, mae’r cyfan yma ym Mae Abertawe.
BEICIO HAMDDEN YN NINAS ABERTAWE
Mae rhwydwaith o lwybrau beicio yn Abertawe – a llawer o’r rhain oddi ar y ffordd, a rhai eraill yn ffyrdd ‘cyfeillgar i feiciau’ cynghorol. Mae nifer o lwybrau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) yn Abertawe a’r cwmpasoedd:
Yr NCN4 (o’r dwyrain) i’r de o Ddoc y De a’r Marina ar hyd glan y môr i Blackpill ac yna o Ddyffryn Clun i Dre-gŵyr (i’r gorllewin). Mae llwybr lleol yn cysylltu Blackpill â’r Mwmbwls ar hyd y llwybr arfordir.
Yr NCN43 o’r gyffordd â’r NCN4 ger pont yr hwyl, wrth ochr yr A4217 am ddau gilometr, yna trwy’r Ardal Fenter i Dreforys (i’r gogledd).
Mae llwybrau lleol dymunol yn mynd drwy Barc Singleton ac o ganol y ddinas i Stadiwm Liberty gyda dau lwybr oddi ar y ffordd drwy’r Ardal Fenter.
EWCH I’R MAP BEICIO AM FWY O WYBODAETH
BEICIO YM MRO GŴYR
Mae beicio’n heriol ar y rhan helaeth o’r penrhyn – dim ond beicwyr profiadol a hyderus ddylai fentro yno’n ddiogel. Fodd bynnag mae rhai llwybrau a lonydd gwledig tawel yn addas ar gyfer beicwyr teulu a’r rhai llai hyderus. Rydym yn cynnwys pedwar o’r llwybrau hyn, ac argymhellwn eich bod yn cludo’ch beiciau mewn car i rai ohonynt i osgoi prif ffyrdd anodd.
Blackpill i Dre-gŵyr a nôl
Mae rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybr NCN4) oddi ar y ffordd yn llwyr ac mae iddo wyneb caled – gallwch ei gyrraedd o ganol Abertawe ar hyd y llwybr beicio arfordirol (NCN4). Mae lluniaeth a thoiledau ar gael yn Blackpill, Cilâ a Thre-gŵyr.
Crofty i Lanrhidian a nôl (gallech ddychwelyd dros Welsh Moor)
Mae hon yn daith 5km hardd a gwastad ar hyd ffordd y Morfa rhwng Crofty a Llanrhidian, sy’n gymharol ddi-draffig, gyda golygfeydd dros y foryd. Gall fod yn wyntog a dylech ei hosgoi pan fo’r llanw’n uchel gan fod tebygrwydd o lifogydd. Mae lluniaeth ar gael yn Crofty a Llanrhidian a thoiledau yn yr Orsaf Wasanaethau yn Llanrhidian. Gallai beicwyr profiadol ddychwelyd ar hyd yr isffordd dros Welsh Moor i Three Crosses a gwneud cylch nôl i Crofty.
Dau lwybr o Parkmill:
Cwm Gwyrdd allan a nôl
Mae’r lôn wledig dawel hon yn mynd i fyny o Parkmill trwy’r tir diarffordd, hardd a hanesyddol (diwydiant cynnar) yng Nghwm Gwyrdd. Teithiwch am tua 1.5km i Goed y Parc cyn dychwelyd. Cewch luniaeth a thoiledau yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr.
Reynoldston dros Gefn Bryn a nôl
Cychwynnwch fel uchod o Parkmill, gan ddilyn yr isffordd i Goed y Parc, yna trowch i’r chwith wrth Lwybr Gŵyr (carreg farcio 15) drwy’r goedwig at y llwybr ceffylau cyhoeddus uwchlaw Penmaen. Trowch i’r dde a dilyn hwn i Gefn Bryn (man uchaf Gŵyr). Croeswch y ffordd ger y copa a throi i’r chwith i Reynoldston 500m ymhellach ymlaen. Am resymau diogelwch, ni ddylech ddychwelyd ar hyd y ffordd fawr felly ewch yn ôl ar hyd yr un llwybrau. Hyd y llwybr yw tua 0.7km bob ffordd. Mae lluniaeth/toiledau yn y Ganolfan Dreftadaeth ac yng Ngwesty’r Brenin Arthur, Reynoldston
Tri llwybr ar gyfer y beiciwr mwy profiadol
Dyma wybodaeth fanwl am y tri llwybr, a ddarparwyd gan Wheelrights Abertawe. Maent yn cynnig teithiau hanner diwrnod ar ochr (ogleddol yn bennaf) y penrhyn. Lawrlwythwch y PDFs isod
Llwybr Canol Gŵyr
Taith Gron Llanmadog
Taith Gron Gogledd Gŵyr
beicio di-draffig yn y mwmbwls
Mae lonydd ar wahân i gerddwyr a beicwyr ar lwybr yr arfordir yr holl ffordd o Abertawe i’r Mwmbwls. Mae’r amwynder poblogaidd hwn yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru ac mae’n llwybr dwyffordd nes i chi gyrraedd Pier y Mwmbwls. Mae’r llwybr cerdded yn parhau o gwmpas yr arfordir trwy Faeau Breichled a Langland i Fae Caswell a Phenrhyn Gŵyr.
BEICIO HAMDDEN ODDI AR Y FFORDD YNG NGHASTELL-NEDD PORT TALBOT
Mae rhwydwaith o lwybrau beicio yng Nghastell-nedd, Port Talbot a’r cymoedd, a llawer o’r rhain oddi ar y ffordd. Mae nifer o lwybrau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) yng Nghastell-nedd a Phort Talbot a’r cwmpasoedd:
NCN4 (o’r dwyrain) trwy Margam, Port Talbot a Llansawel ac ymlaen i Abertawe a thu hwnt.
NCN43 o’r gyffordd â’r NCN4 yn Abertawe ac yna drwy Gwm Tawe i Ystalyfera.
NCN46 o Gastell-nedd trwy Gwm Nedd i Lyn-nedd ac ymlaen i Ferthyr a thu hwnt.
NCN47 o’r gyffordd â’r NCN4 yn Llansawel trwy Gastell-nedd a llwybr lefel uchel i Lyncorrwg a thu hwnt.
Dyma rai o’r llwybrau lleol dymunol:
Port Talbot (cysylltu â’r NCN4) trwy Gwm Afan i’r Cymer gyda chyffordd i’r NCN885 tua’r de i Faesteg ac i’r NCN887 tua’r gogledd i Lyncorrwg (NCN47).
Port Talbot (cysylltu â’r NCN4 drwy feicio ar y stryd) i’r Bryn ar hyd Cwm Dyffryn.
Port Talbot (cysylltu â’r NCN4 drwy feicio ar y stryd) i Lannau Aberafan, Sandfields a Llansawel (cysylltu â’r NCN4 a’r NCN47).
Beicio Mynydd ym Mharc Coedwig Afan
Mae Parc Coedwig Afan yn fyd-enwog am ei lwybrau a’i gyfleusterau beicio mynydd. Mae’n agos i’r NCN4 a’r NCN46 ac mae’r NCN47 yn ei groesi. Os hoffech ddod ar y trên, mae’n hawdd ei gyrraedd drwy deithio i Barcffordd Port Talbot lle mae llwybr beicio cysylltiol i Gwm Afan.
Dangosir cyfleoedd beicio ar y ffordd diogel cynghorol eraill ar y map isod.
CEWCH FWY O WYBODAETH DRWY EDRYCH AR Y MAP BEICIO
BEICIO YNG NGOGLEDD ABERTAWE A MAWR
Mae’r Llwybr Beiciau Cenedlaethol (NCN4) yn mynd i’r dde o’r ardal rhwng Tre-gŵyr a Chasllwchwr ac ymlaen i Lwybr Arfordir y Mileniwm Llanelli. Mae llwybr beiciau lleol cysylltiol rhwng Gorseinon a Phengelli (oddi ar y ffordd rhwng Tre-gŵyr a Gorseinon) gydag estyniad i Bontarddulais ar y gweill yn y dyfodol. Mae’r NCN43 rhwng Abertawe, Treforys a Chlydach yn ffordd dda o gyrraedd Mawr drwy Graig Cefn Parc.
I’r gogledd o draffordd yr M4, mae rhwydwaith eang o ffyrdd gwledig o fewn terfynau Craig Cefn Parc i’r dwyrain, a Llangyfelach, Pontlliw a Phontarddulais i’r dde a’r gorllewin. Mae’r rhain yn dawel ac yn olygfaol iawn (er eu bod yn serth mewn mannau) ac mae hon yn ardal feicio dda.
LLOGI BEICIAU
Gallwch logi beiciau mewn pum lleoliad:
BikeAbility Wales
Elusen fechan leol sy’n hybu beicio i bobl o bob gallu. Lleolir yng Nghlwb Rygbi Dynfant, ger yr NCN4 yn Nynfant. Llogi beiciau a hyfforddiant beicio.
The Bike Hub
Siop feiciau â ffocws ar y beiciwr yn San Helen, Abertawe, 200 metr oddi ar y llwybr beicio ar hyd glan môr Abertawe. Mae’n fan cychwyn perffaith i grwydro’r rhwydwaith eang o lwybrau sydd ar gael yn Abertawe a’r amgylchoedd.
Afan Valley Bike Shed
Lleolir hwn yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Afan, ac maent yn cynnig cyfleusterau llogi beiciau mynydd, hyfforddiant, a gwaith cynnal ac atgyweirio ar feiciau.
Afan Valley Mountain Bike Hire
Lleolir hwn yng Nglyncorrwg, ac maent yn cynnig cyfleusterau llogi beiciau mynydd ac yn trefnu teithiau beicio antur.
Santander Cycles Swansea
Mae bywyd yn braf gyda Santander Cycles – ffordd hawdd, hwyliog ac iach o fynd o gwmpas Abertawe. Lleolir ar Gampysau’r Bae a Singleton Prifysgol Abertawe.
ADNODDAU DEFNYDDIOL ERAILL
www.cycleswanseabay.org.uk
Yn darparu map rhyngweithiol a gwybodaeth am y llwybrau beicio yn ardal Bae Abertawe
www.sustranscymru.org.uk
Yn darparu mapiau a gwybodaeth am lwybrau ledled Cymru, yn cynnwys Gŵyr ac Abertawe