Dwy dref â threftadaeth gyfoethog a chefnwlad syfrdanol; yn hawdd eu cyrraedd gyda llu o bethau i’w gweld a’u darganfod
Cynlluniwch eich taith gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
Teithiwch o gwmpas ar y bws neu’r trên
Mae rhwydwaith cynhwysfawr o wasanaethau bysiau yn rhedeg o Gastell-nedd a Phort Talbot chwe diwrnod yr wythnos gyda gwasanaethau cyfyngedig ar y Sul. Mae’r rhain yn gwasanaethu’r ddwy dref, ynghyd â Chymoedd Afan, Nedd, Tawe a Dulais, glan môr Aberafan a Pharc Gwledig Margam.
Mae gwasanaeth trenau aml rhwng Castell-nedd a Phort Talbot a threnau llai aml yn gwasanaethu Baglan, Llansawel a Sgiwen.
Beicio hamdden oddi ar y ffordd
Mae rhwydwaith o lwybrau beicio yng Nghastell-nedd, Port Talbot a’r cymoedd, a llawer o’r rhain oddi ar y ffordd. Mae gan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) nifer o lwybrau yng Nghastell-nedd a Phort Talbot a’r cwmpasoedd:-
NCN 4: (o’r dwyrain) trwy Margam, Port Talbot a Llansawel i Abertawe a thu hwnt.
NCN 43: o’r gyffordd â’r NCN 4 yn Abertawe ac yna drwy Gwm Tawe i Ystalyfera.
NCN 46: o Gastell-nedd trwy Gwm Nedd i Lyn-nedd, Merthyr a thu hwnt.
NCN 47: o’r gyffordd â’r NCN 4 yn Llansawel trwy Gastell-nedd a llwybr lefel uchel i Lyncorrwg a thu hwnt.
Dyma rai o’r llwybrau lleol dymunol:-
Port Talbot NCN 887 (cysylltu â’r NCN 4) trwy Gwm Afan i’r Cymer gyda chyffordd i’r de i Faesteg ac i’r gogledd i Lyncorrwg (ar gyfer yr NCN 47).
Port Talbot (cysylltu â’r NCN 4 drwy feicio ar y stryd) i’r Bryn ar hyd Cwm Dyffryn.
Port Talbot (cysylltu â’r NCN 4 drwy feicio ar y stryd) i Lannau Aberafan, Sandfields a Llansawel (cysylltu â’r NCN 4 a’r NCN 47).
Dangosir lleiniau beicio ar y ffordd diogel cynghorol eraill ar y map isod.
Cewch fwy o wybodaeth drwy edrych ar y map beicio
Cerdded yng Nghastell-nedd, Port Talbot a’r Cymoedd
Mae llawer o lwybrau cerdded da yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae llwybr mewndirol Llwybr Arfordir Cymru rhwng Margam a Llansawel yn syfrdanol ac yn heriol gyda golygfeydd gwych dros Barc Margam, y Gwaith Dur a Bae Abertawe.
Gweler y gyfres ddiddorol o deithiau cerdded ar ein tudalen Cerdded
Gall Cerddwyr Castell-nedd Port Talbot ddarparu mwy o wybodaeth a rhaglen o deithiau cerdded wedi’u trefnu.
Dyma rai o’r atyniadau y mae Castell-nedd, Port Talbot a’r Cymoedd yn eu cynnig
Cynlluniwch eich taith gyda Chynlluniwr Taith Traveline Cymru
Parciau Gwledig
-
PARC GWLEDIG YSTAD Y GNOLL
-
Gorsaf Fysiau Gerddi Victoria (1 km) yr holl wasanaethau
-
Mae’r NCN 47 yn cysylltu â mynediad beiciau ar isffyrdd
-
Cysylltiadau cerdded o ganol tref Castell-nedd
Mae'r parc hwn yn agos at ganol Castell-nedd, ac ers talwm roedd yn ystad odidog a ddatblygwyd gan y teulu o ddiwydiannwr, y Mackworth. Mae bellach yn ardal hardd o goetir, nodweddion dŵr hanesyddol a gweithgareddau hamdden.Ewch i'r wefan -
-
PARC GWLEDIG MARGAM
-
Prif Fynedfa Parc Margam (500m) X1, X4
-
Mae'r NCN 4 yn mynd o gwmpas ffiniau dwyreiniol a deheuol y parc
-
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn agos at y parc
Mae'r parc hwn yn adnodd naturiol eithriadol, yn agos i'r gwaith dur anferth ar yr arfordir islaw, ond yn ei ragflaenu'n sylweddol. Mae iddo hanes hir a chyfareddol. Mae'r Parc wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ardal am tua mil o flynyddoedd ac mae llawer o olion ysblennydd o'i orffennol wedi para hyd heddiw. Mae hefyd yn ganolfan wych ar gyfer cerdded, beicio a gweithgareddau eraill.Ewch i'r wefan -
-
PARC COEDWIG AFAN
-
Mae Cwm Afan i gyd yn cael ei wasanaethu gan fysiau yn y mannau allweddol 59, 83
-
Mae'r NCN 887 yn cysylltu o'r NCN 4 ym Mhort Talbot ac i'r NCN 883 i Faesteg, ac mae'n cysylltu â'r NCN 47 yng Nglyncorrwg
-
Mynediad o Lwybr Arfordir Cymru ym Mhort Talbot yn defnyddio'r NCN 887. Mae llawr y dyffryn yn cynnig llwybrau diogel ar gyfer beicio hamdden ac mae nifer o lwybrau beicio mynydd yn yr ardal hefyd.
Mae'r parc hwn wedi dod yn enwog fel un o’r prif leoliadau beicio mynydd yn y Byd. Mae iddo dreftadaeth gwych o lwybrau cerdded sydd wedi ail-ddadlenni ei harddwch naturiol ar ôl i'w hanes diwydiannol ddiflannu.Ewch i'r wefan -
Hanes, Treftadaeth a Harddwch Naturiol
-
Mynachlog Nedd
-
Ffordd Fawr Mynachlog Nedd (100m) 34, 38, 204
-
NCN 47 yng Nghastell-nedd (1 km)
-
Mae llwybr halio Camlas Tennant yn mynd heibio i'r safle ac yn cysylltu canol tref Castell-nedd â Jersey Marine
Mae'r hen fynachlog Sistersaidd hon wedi ei hadfer yn gywrain ac yn cael ei chynnal gan CADW. Mae rhan helaeth o'r canol yn sefyll o hyd.Ewch i'r wefan -
-
GWAITH TUN A RHAEADR ABERDULAIS
-
Rhaeadr Aberdulais (cyfagos) X8, T6
-
Mae'r NCN 43 yn mynd heibio i'r safle ac yn cysylltu â'r NCN 47 yng Nghastell-nedd; parcio i feiciau ar y safle; yn mynd o gwmpas ffiniau dwyreiniol a deheuol y parc
-
Yn agos at lwybrau halio Camlesi Castell-nedd a Thennant
Safle dreftadaeth wych lle mae'r hen waith tun a'r olwyn ddŵr wedi cael eu hadfer yn ofalus i ddweud y stori am gyfraniad Aberdulais i'r Chwyldro Diwydiannol; mae'r rhaeadr ysblennydd yn rhan allweddol o'r stori gan iddi ddarparu'r pŵer i redeg y gwaith tun.Ewch i'r wefan -
-
AMGUEDDFA GLOFA CEFN COED
-
Cefn Coed (cyfagos) X7, T6
-
Mae'r NCN 43 yn mynd heibio i'r safle (2km) ac yn cysylltu â'r NCN 47 yng Nghastell-nedd; parcio i feiciau ar y safle; yn mynd o gwmpas ffiniau dwyreiniol a deheuol y parc
-
Gellir cyrraedd yma ar hyd yr isffordd o Aberdulais (2km) gyda llain fer (250 m) o gerdded ar y ffordd fawr
Mae'r amgueddfa'n dweud stori codi glo yma trwy eiriau, lluniau ac arteffactau. Ar un adeg, hon oedd y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd. Mae'r lefel danddaearol, gyda'i hefelychydd o wythïen lo, yn amlygu amodau gweithio truenus y glowyr.Ewch i'r wefan -
-
Pont-rhyd-y-fen a'i draphontydd hanesyddol
-
59, 83 Cyfnewidfa Oakwood
-
NCN 887 yn uniongyrchol o Bort Talbot
-
Llwybr Richard Burton a'r Llwybr Trên ac Afon
Saif pentref Pont-rhyd-y-fen mewn cwm dwfn wrth gydlifiad afon Afan a Phelenna ac mae'n enwog am ei bedair traphont, y mae dwy ohonynt mewn bod ac yn gyflawn o hyd. Mae'r holl ardal yn cyflwyno darlun anhygoel o orffennol hanesyddol pan fyddai'r rheilffyrdd yn ferw o drafnidiaeth glo o'r cymoedd i'r porthladdoedd arfordirol. -
-
Camlesi Tennant a Chastell-nedd
-
X7 (Tonna, Y Clun, Resolfen); X8, T6 (Aberdulais); X7, X8 (yn Jersey Marine)
-
Mae'r NCN 46 yn dilyn Camlas Nedd o ganol tref Castell-nedd i Resolfen
-
Gellir cerdded ar hyd y llwybr halio ar y ddwy gamlas: Jersey Marine i Aberdulais (Camlas Tennant); canol tref Castell-nedd i Aberdulais a Resolfen (Camlas Nedd)
Er eu bod wedi eu hadfer yn rhannol yn unig, mae'r ddwy gamlas yn darparu cyfoeth o hanes a threftadaeth naturiol ar eu hyd drwy'r lociau, traphontydd dŵr a basnau'r camlesi (a ddefnyddiwyd ar gyfer llwytho a thrawslwytho). Mae llwybrau cerdded da, gwastad ar hyd llwybrau halio'r ddwy gamlas ac mae’n hawdd cyrraedd yma ar y bws ar amrywiol bwyntiau -
-
Camlas Abertawe
-
X6 (Clydach Mond, Pontardawe Jiwbilî); 56, 256 Pontardawe Jiwbilî
-
Mae'r NCN 43 yn dilyn neu'n agos at y gamlas rhwng Clydach ac Ystalyfera
-
Gellir cerdded ar hyd y llwybr halio ar y hyd y camlesi rhwng Clydach, Pontardawe a Godre’r Graig
Mae'r rhan helaeth o'r gamlas hanesyddol hon wedi cael ei hadfer neu'n cael ei hadfer ar hyn o bryd, ac mae'n nodwedd bwysig o'r cwm rhwng Clydach, Pontardawe a Godre’r Graig. Y ffordd orau o werthfawrogi harddwch y cwm yn yr oes ôl-ddiwydiannol yw mynd am dro ar hyd y llwybr halio. -
-
Rhaeadr Melin-cwrt
-
Rhaeadr Melin-cwrt
-
NCN 47 (1 km); gellir parcio beiciau yn y maes parcio (500m)
-
NCN 47 a Llwybr Camlas Nedd (1 km)
Mae'r rhaeadr yn drysor cudd ysblennydd, sydd ond 500 metr oddi wrth y ffordd fawr a'r safle bysiau ar hyd llwybr serth trwy gwm hyfryd. -
HAMDDEN, TWRISTIAETH A CHWARAEON
-
Neuadd Gwyn
-
Gorsaf Fysiau Castell-nedd Gerddi Victoria (50m)
-
Yr NCN 47 gerllaw; parcio i feiciau ar gael
-
O fewn pellter cerdded hawdd o ganol y dref
Mae'r neuadd hon wedi'i lleoli'n gyfleus yng nghanol y dref ger y gorsafoedd bysiau a threnau, ac mae'n gartref i sinema, theatr a drama.Ewch i'r wefan -
-
THEATR Y DYWYSOGES FRENHINOL
-
Gorsaf Fysiau Port Talbot (100m) - yr holl wasanaethau
-
NCN 887 (cyfagos); parcio i feiciau ar gael
-
O fewn pellter cerdded hawdd o ganol y dref
Mae'r theatr 800 sedd hon wedi'i lleoli'n gyfleus yng nghanol y dref ac yn agos at yr orsaf fysiau. Cynhelir perfformiadau byw yma gan grwpiau proffesiynol ac amatur.Ewch i'r wefan -
-
CANOLFAN GELFYDDYDAU PONTARDAWE
-
Pontardawe Jiwbilî (100m) X6, 56, 256
-
NCN 43 (cyfagos); parcio i feiciau ar gael
-
NCN 43 a llwybr halio Camlas Abertawe (100m)
Mae'r ganolfan gelfyddydau amlbwrpas hon wedi'i lleoli'n gyfleus yng nghanol y dref ac yn agos at yr orsaf fysiau. Cynhelir theatr fyw, sinema, celf a dawns yma.Ewch i'r wefan -
-
CANOLFAN HAMDDEN A FFITRWYDD ABERAFAN
-
Ffordd y Dywysoges Margaret (cyfagos) 82 (diwrnodau gwaith) 8 (dydd Sul)
-
Mae'r gangen arfordirol oddi ar yr NCN 4 yn mynd heibio i'r safle; parcio i feiciau ar gael
-
Yn agos at lwybr cerdded y promenâd a'r llwybr beicio/cerdded arfordirol
Mae Canolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan yn darparu ar gyfer anghenion ffitrwydd a hamdden y gymuned leol ac ehangach. P’un ai rydych yn blentyn sy’n dysgu sut i nofio, yn weithiwr lleol sydd eisiau dod yn heini, neu’n rhywun sydd eisiau ymlacio yn syml – dyma’r lle perffaith i chiEwch i'r wefan -
-
ACADEMI CHWARAEON LLANDARCY
-
Coed Darcy (cyfagos) X7, X8, 38
-
Mae'r NCN 46 yn mynd heibio i'r ganolfan; parcio i feiciau ar gael
-
NCN 46 a llwybr halio Camlas Tennant (200m)
Llandarcy yw’r lle gorau am iechyd, lles a ffitrwydd, ond nid dyma’r cyfan mae’n ei gynnig – o bartïon i blant, gwersylloedd gwyliau i blant neu benwythnosau agored am ddim i Bafiliwn Llandarcy, ein bwyty a’n bar chwaraeon cyffrous, newydd sbon – mae llu o ddewisiadau deniadol eraill.Ewch i'r wefan -
Trefi Braf a Glan Môr Gwych
-
Castell-nedd
-
Gorsaf Fysiau Gerddi Victoria; yr holl wasanaethau ac eithrio'r T6 (yn yr Orsaf Drenau)
-
NCN 47 gerllaw; parcio i feiciau ar gael
-
Llwybr Arfordir Cymru yn Llansawel (3km)
Mae Castell-nedd yn dref farchnad hanesyddol y mae ei gwreiddiau yn hanu o gyfnod y Rhufeiniaid pan elwid yr anheddiad yn Nidum. Heddiw, mae'n dref brysur gydag eglwys eiconig o'r 19eg ganrif, Eglwys Dewi Sant, a saif ger ei Gerddi Victoria hardd. Mae llawer o nodweddion o ddiddordeb hanesyddol yn y dref yn cynnwys olion Castell Normanaidd, Hen Neuadd y Dref a Thŷ Cyfarfod y Cyfeillion, ynghyd â’r farchnad dan do fawr. Saif tiroedd eang Parc Gwledig Ystad y Gnoll uwchlaw'r drefEwch i'r wefan -
-
Port Talbot
-
Gorsaf Fysiau Port Talbot: yr holl wasanaethau
-
Mae'r NCN 4 yn mynd heibio i'r canol; parcio i feiciau ar gael
-
Mae Llwybr Arfordir Cymru (y llwybr mewndirol) yn mynd drwy'r dref
Mae Port Talbot yn dref ddiwydiannol gymharol fodern y mae ei chyfoeth yn seiliedig ar y gwaith dur anferth, sy'n gweithredu o hyd, ac sy’n felin strip ddur o safon fyd-eang. Mae canol y dref yn fan bywiog gyda chyfleusterau siopa rhagorol a theatr wych sy'n cyflwyno repertoire eang o adloniant. Gyda'r traeth braf a'r morlun ar un ochr a mynyddoedd mawreddog ar yr ochr arall, mae'n lleoliad da.Ewch i'r wefan -
-
Pontardawe
-
Gorsaf Fysiau Pontardawe Jiwbilî X6, 56, 256
-
NCN 43 (cyfagos); parcio i feiciau ar gael
-
Mae'r NCN 43 a llwybr halio Camlas Abertawe yn mynd drwy'r dref
Pontardawe yw prif dref Cwm Tawe, a saif mewn lleoliad amlwg ar y groesffordd Gogledd-De a Dwyrain-Gorllewin. Mae ganddi Ganolfan Gelfyddydau fywiog sy’n adnabyddus fel un o leoliadau diwylliannol gorau De Cymru. Mae ei heglwys yn nodwedd fawreddog sy'n ymgodi uwch ben y dref a'r gamlas.Ewch i'r wefan -
-
Glan Môr Aberafan
-
Ffordd y Dywysoges Margaret 82 (diwrnodau gwaith) 8 (dydd Sul)
-
Dilynwch y gangen arfordirol oddi ar yr NCN 4; parcio i feiciau ar gael
-
Yn agos at lwybr cerdded y promenâd a'r llwybr beicio/cerdded arfordirol
Mae'r glan môr syfrdanol hwn wedi gweld adfywiad yn ddiweddar. Mae promenâd hyfryd yn rhedeg ar hyd y pedwar cilometr o dywod euraid, gyda chaffis ac atyniadau, a golygfeydd ar draws Bae Abertawe.Ewch i'r wefan -