Anturiaethau Teithio ym Mae Abertawe...heb gar

MAN ARBENNIG LLE MAE DINAS, ARFORDIR A CHEFN GWLAD YN CWRDD MEWN DULL DRAMATIG

Mae Bae Abertawe yn un o’r ardaloedd mwyaf cyffrous ac amrywiol ym Mhrydain am atyniadau a gweithgareddau awyr agored. Mae’r ddinas a’r trefi bywiog cyfagos yn atyniad arall ac yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ymwelwyr. Gydag arfordir anhygoel a chefn gwlad gogoneddus, mae’n Fecca i gerddwyr brwd – mae’r amrywiaeth o weithgareddau antur heb ei hail.

MAE’N HAWDD TEITHIO’N GYNALIADWY I FAE ABERTAWE AC O’I GWMPAS :        DRWY FANTEISIO AR Y RHWYDWAITH TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS, Y LLWYBRAU BEICIO A’R LLWYBRAU CERDDED RHAGOROL

Dewch yma ar drên neu goets – gallwch ddod yma’n hawdd ac yn rhad o unrhyw ran o Brydain ac o’r prif feysydd awyr. Mae’r Llwybr Beiciau Cenedlaethol 4 yn cysylltu’r wlad â Bae Abertawe.

DEWCH I WELD DROSOCH EICH HUNAN

AROLWG O ADBORTH YMWELWYR

Os ydych wedi crwydro’n hardal heb gar (ar fws, beic, troed neu drên) yna hoffem glywed gennych. Rhowch eich adborth i ni trwy lenwi ein harolwg i ymwelwyr

DINAS ABERTAWE

Mae ganddi’r holl amwynderau a ddisgwylir mewn dinas gyda’r bonws o arfordir anhygoel a harddwch naturiol eithriadol Gŵyr a gogledd Abertawe yn gefnwlad iddi… ac mae’n hawdd mynd o gwmpas ar y bws, ar feic ac ar droed.

Mwy

GŴYR

Darganfyddwch ei dirweddau a’i arfordir Anhygoel – ac mae’n daith fer ar fws neu feic o Abertawe.

Mwy

Y MWMBWLS

Traethau euraidd, adloniant gwych, llond lle o fwytai, caffis a thafarnau da, siopa o safon

Mwy

MAWR GOGLEDD ABERTAWE

Llwybrau cerdded a beicio da. Golygfeydd gwych a rhyfeddodau cudd.

Mwy

CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Dwy dref â threftadaeth gyfoethog a chefnwlad syfrdanol. Hawdd eu cyrraedd gyda llawer i’w weld a’i archwilio

Mwy