Crwydro Cefn Gwlad:

Pont-Rhyd-Y-Fen i'r Cymer

Taith gerdded hanesyddol hyfryd ar hyd yr hen reilffordd

Mae’r llwybr hwn yn dilyn hen reilffordd y Rhondda a Bae Abertawe (R&SB) ac mae’r llwybr yn wastad yn bennaf ar hyd y cwm mawreddog hwn. Dros y degawdau diwethaf mae tirweddau Cwm Afan, oedd gynt yn dra diwydiannol, wedi cael eu gweddnewid yn ardal sydd wedi ei hadennill gan goedwigaeth a natur, gan ddod yn baradwys i gerddwyr, beicwyr a gwylwyr adar. Gallwch ymweld ag Amgueddfa gyfareddol Glowyr De Cymru yn Afan Argoed ar y ffordd.

Agorodd y rhan hon o’r R&SB i drafnidiaeth gludo yn 1885 i gario glo o lofeydd Cwm Afan uchaf. Cafodd ei hestyn drwy dwnnel y Rhondda (yr hiraf yng Nghymru – tua 3500 metr) yn 1890 i gystadlu am lo’r Rhondda, ac ar yr un pryd i ddarparu trenau teithwyr rhwng Treherbert ac Abertawe. Caeodd y gwasanaeth teithwyr yn 1962 a daeth trafnidiaeth glo i ben i’r gorllewin o Gwm Rhondda yn 1964. Arhosodd y lein ar agor i’r dwyrain tan 1970 gan gludo glo i Orsaf Bŵer Aberddawan.

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

O safle bysiau Oakwood, cerddwch i lawr y rhiw, croeswch yr afon gyda’r draphont dŵr ar y chwith, yna trowch i’r dde i isffordd sy’n arwain i faes parcio Rhyslyn (CG 796842).

Rhyslyn yw safle hen orsaf yr R&SBR ym Mhont-rhyd-y-fen a gellir gweld gwrthgloddiau (ar y dde) ble roedd y platfform gynt. Wrth fynd tua’r dwyrain, roedd dwy reilffordd: yr R&SBR a groesai’r afon ar draphont uchel un bwa (ble mae pont droed bellach), a’r llall yn lein cangen a adeiladwyd ond na chafodd erioed ei defnyddio i gysylltu â Rheilffordd Fwynau De Cymru (SWMR).

Ar ben pellaf y maes parcio, byddwch yn gweld bwrdd dehongli a dau lwybr yn arwain i fyny’r dyffryn. Dilynwch y llwybr ar y dde sy’n croesi pont droed (a ddisodlodd yr hen bont rheilffordd) ac sy’n arwain i Ardd Goed Kanji.

Syniad yr arbenigwr crefft ymladd o Gastell-nedd, C W Nicol, oedd y goedwig hon a grëwyd yn 2003. Mae Nicol bellach yn ddinesydd Japaneaidd ac yn adnabyddus yn ei wlad fabwysiedig. Mae’r ardd yn dathlu gefeillio Parc Coedwig Afan â choedwig ger Tokyo oedd wedi mynd yn ddiffaith (ac a fabwysiadwyd gan Nicol). Yn yr ardd gallwch weld rhywogaethau niferus o gonwydd, coetir a phlanhigion Japaneaidd, ynghyd â nifer o lythrennau Japaneaidd wedi’u cerfio o bren sy’n symbolau o fywyd, pobl, a’r goedwig.

Disgynnwch yn raddol at y prif lwybr ac yn fuan wedyn, mae dargyfeiriad islaw’r A4107 i osgoi ymsuddiant sylweddol. Ewch yn eich blaen i Afan Argoed (CG 821952) ac yma mae’r llwybr ar y dde yn arwain i’r Ganolfan Ymwelwyr sydd â chaffi a thoiledau.

Ar y safle hwn, mae Amgueddfa Glowyr De Cymru ble gall y plant wisgo capiau, lampau a helmedi a dysgu sut oedd bywyd wrth weithio dan y ddaear yn y tywyllwch. Y tu allan mae llawer o greiriau diddorol o hanes glofaol y cwm, yn cynnwys tramiau, olwynion ac offer cloddio, a rheilffordd fechan sy’n rhedeg ar y ‘diwrnodau agored’.

Ewch yn ôl ar yr un llwybr, trowch i’r dde ac ewch yn eich blaen heibio i hen orsaf Cynonville ble mae’r platfform a’r gysgodfa’n sefyll o hyd. Mae’r llwybr braidd yn droellog ac yn mynd yn ei flaen drwy goedwig sy’n ddarluniaidd er iddi gael ei theneuo, uwchlaw’r afon. Ar y dde (CG 838956) mae Gwesty Afan Lodge – lle arall am luniaeth.

Noder bod tipyn o gwympo coed wedi digwydd yma. Yn 2010, darganfuwyd clefyd coed o’r enw Phytophthora ramorum ar y llarwydd Japaneaidd yng Nghoedwig Afan ac mewn mannau eraill. O ganlyniad, mae llawer o goed wedi cael eu cwympo, yn enwedig yn y rhan hon o’r cwm. Plannwyd y goedwig mor

ddiweddar â’r 1930au, a nawr mae’r rhaglen gwympo’n caniatáu i rywogaethau brodorol fel coed derw a chriafol ailsefydlu.

Mae’r llwybr yn troelli drwy’r cwm gyda phentref Abercregan ar y chwith, ble gallwch weld arglawdd yr SWMR. Cyn hir mae’n croesi dan y draphont adfeiliedig (sy’n cysylltu’r GWR â’r SWMR) cyn iddo ddiweddu ar safle dwy orsaf Y Cymer. Mae’r platfform yng Nghymer Afan yno o hyd (CG 860962) ynghyd â’r Ystafelloedd Lluniaeth gwreiddiol, sydd nawr yn dafarn leol, y Refreshment Rooms. Mae o fewn cyrraedd cerdded i gyfnewidfa bysiau Y Cymer .

Pellterau metrig a roddir ym mhob man
Mae CG yn cyfeirio at gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans

Darllen mwy